Cyfres animeiddiedig i blant 2-4 mlwydd oed. Gyda byd Cyw yn gefnlen lliwgar i’r gyfres, mae’r straeon oll yn ymwneud a digwyddiadau syml gyda sêr y brand sef Bolgi, Llew, Jangl, Plwmp, Deryn, Triog a Cyw. Gyda’i gilydd, mae’r criw yn trio gwneud synnwyr o’r byd o’u...
Cyfres ysbrydoledig sy’n lwyfan i leisiau’r gynulleidfa ifanc sydd â stori arbennig i’w hadrodd. Mae tîm #Fi wedi cynhyrchu dros ddeg ar hugain o raglenni sy’n adlewyrchu bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw ac wedi ymwneud â phynciau sensitif fel galar a...
Yn dilyn arbrawf drychinebus, mae nifer fawr o bobl wedi cael eu heintio gan feirws sy’n eu troi’n Zombies, neu ‘Zeds’. Mae 5 disgybl dewr wedi bod yn cuddio yn eu hysgol, ond nawr mae ‘na Zeds wedi ffeindio’u ffordd mewn ac yn crwydro’r coridorau! Mae angen i’r criw...
Dyma’r sioe sy’n gwneud yr arbrofion na ddylech chi ddim gwneud adre! Ffrwydriadau, siociau trydanol, cemegion peryglus, mwy o ffrwydriadau, technoleg newydd, gynj. O ollwng piano o graen i fesur awyren jet gyda chamera cyflymder; o ffrwydriadau nitrogen hylifol i...
Cyfres i blant meithrin sy’n cyflwyno’r wyddor iddyn nhw. Ymhob pennod mae’r cyfrifiadur yn cyflwyno llythyren sy’n troi yn gyfres o eiriau sy’n helpu Jen a Jim i ddatrys dirgelwch yn bennod honno.
Yn y gyfres hon mae’r cymeriad doniol Dona Direidi yn cael tro ar bob math o wahanol swyddi. Cyfres i blant meithrin.
Cyfres gomedi i blant meithrin sy’n amrywiaeth o sgetsys, eitemau doniol, jôcs a chymeriadau dwl newydd sbon.
Cyfres i blant 4 – 6 mwlydd oed gyda Jen a Jim a chymeriadau brand Cyw yn datrys problemau a posau mathemategol. Mae’r gyfres yn un fydd yn helpu plant ddatblygu eu sgiliau mathemateg.
Rhaglen gwis wedi’i gyflwyno gan Anni Llŷn sy’n mynd â ni i fyd eiconig yr Hen Aifft. Pwy fydd yn datrys y posau, ateb y cwestiynau ac yn osgoi’r trapiau cyn i’r tywod gwympo i waelod yr awr-wydr? 6 sy’n dechrau’r daith, ond dim ond sy’n cipio trysorau’r Pyramid....
Mae Sbarc yn gyfres wyddonol sy’n ateb pob math o gwestiynau mae rhai plant ifanc yn eu holi. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar un thema. Sbarc, y gwyddonydd, (Tudur Phillips) sy’n gosod y thema ac yn ymdrechu i ddod o hyd i’r atebion am y byd o’n cwmpas,...
Cyfres boblogaidd llawn comedi gwirion wedi ei leoli mewn ysbyty. Does byth eiliad dawel yn Ysbyty Hospital! Mae’r comedi yn y gyfres hon yn deillio o’r cymeriadau cryf fel y rheolwraig bwysig, y dirprwy uchelgeisiol, y nyrs niwrotig, y doctor anobeithiol, DJ...
Cyfres yn llawn canu a dawnsio gyda’r rapwraig o fri, Dona Direidi; wrth iddi hi a’i ffrind Ned Nodyn osod sialens i griw o ddisgyblion. Yr her ydy dysgu cân newydd a’i pherfformio o flaen neuadd lawn. Mae Dona’n eu helpu gyda’r paratoadau, ac yn annog y plant i...