Cyfres yn arbennig i fabis a phlant bach o dan 4 oed ydy Jamborî. Mae’n gyfres sydd yn dathlu perthynas arbennig plant gyda sŵn a cherddoriaeth. Jam sydd yn arwain y gynulleidfa drwy fyd llawn sŵn a lluniau lliwgar lle mae ffrwythau yn symud, robotiaid yn hedfan a chysgodion yn dawnsio! Mae Jamborî yn wledd i’r synhwyrau ac yn dathlu sŵn a cherddoriaeth mewn ffordd greadigol iawn.
Jambori
Plant![Jambori](https://boomcymru.co.uk/wp-content/uploads/2019/03/Jambori-1080x608.png)