Croeso cynnes i gymeriadau newydd sbon Cyw i’r babanod lleiaf, y Cywion Bach! Mae Bîp Bîp, Pi Po, Bop a Bw yn ffrindiau pennaf ac maen nhw wrth eu bodd yn dysgu geiriau newydd. Os ydych chi a’ch cywion bach yn dysgu Cymraeg hefyd, dewch i ddysgu gair ym mhob...
Mae hoff fôr-leidr plant Cymru, Ben Dant, ar antur newydd i ailgylchu, a throi sbwriel yn sbeshal, a gwastraff yn gampwaith. Mae e’n teithio i ysgolion cynradd ar hyd y wlad i greu trysorau penigamp, cyfeillgar i’r amgylchedd.
Cyfres ddrama afaelgar, gyffrous i blant hŷn, wedi ei lleoli mewn ysgol ac ar-lein ac yn neidio’n ôl a mlaen mewn amser i ddatrys dirgelwch diflaniad un ferch, sy’n taflu popeth oddi ar ei echel …
Cyfres sy’n annog gwylwyr ifanc i ymuno â Kim a Cêt ar antur hudolus yn llawn dawns a cherddoriaeth i ddod o hyd i’r twrch bach blin sy’n byw mewn twll!
Pwdryn a Melys sy’n helpu plant i ofalu am eu dannedd drwy chwarae llond trol o gemau lliwgar mewn timau! Pa dîm all gasglu y mwyaf o ddannedd glân ac ennill Tlws Dani Dant?
Cyfres sci-fi i bobl ifanc ar gyfer S4C ac enillydd gwobrau gan Ŵyl y Cyfryngau Celtaidd ac RTS Cymru yn 2023.
Cyfresi llawn antur sy’n dilyn y cyflwynwyr Meleri Williams a Huw Owen wrth iddyn nhw grwydro Cymru yn darganfod beth mae plant yn hoffi ei wneud yn yr awyr agored.
Cyfres antur eithafol gyda phedwar tîm o blant ar goll yn rhywle yn y gwyllt. Eu nod yw cyrraedd lloches ddiogel cyn i’r haul fachlud a chyn bod Gwrach y Rhibyn yn ymddangos …
Mae Meet the Experts yn dathlu gwybodaeth a llwyddiannau plant yn eu hobi neu eu harbenigedd, i ysbrydoli plant eraill i chwilio am hobi mae’n nhw’n ei garu.
Criw Stwnsh yn cyflwyno chwedlau Cymru mewn ffordd ti ‘rioed ‘di weld o’r blaen! Yr wythnos hon, dyma eu fersiwn nhw o stori Geraint ac Enid. Digon o hwyl, chwerthin a chanu!
Cyfresi hanes byw sy’n ymwneud â chyfnodau mewn hanes o berspectif plentyn sy’n byw yn y cyfnod hwnnw, o Oes y Celtiaid a’r Canol Oesedd i Oes Fictoria a’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfresi sgetsys, caneuon dwl a spoofs sydd ddim Chwarter Call! Gyda chast sy’n mynd yn fwy gwirion bob cyfres, un peth sy’n siŵr, bydd wastad lot o lols.