Yn y gyfres hon mae’r cymeriad doniol Dona Direidi yn cael tro ar bob math o wahanol swyddi. Cyfres i blant meithrin.
Cyfres i blant 5-8 mlwydd oed sy’n rhan o ddathliadau Cyw yn 10 mlwydd oed. Mae Dona Direidi yn cynnal partion pen-blwydd llawn gemau, hwyl, dawnsio a chanu ac yn rhoi syrpreis arbennig iawn i un plentyn a’i ffrindiau.
Mae Hafod Haul yn gyfres o’r byd go iawn i blant meithrin 4-6 oed. Anifeiliaid fferm yw’r rhan fwyaf o’r cymeriadau yn y gyfres swynol hon, a’r prif gymeriad yw Jaff y ci. Bydd Heti’r ffarmwraig yn rhoi ei phig i mewn o bryd i’w...
Cyfres ryngweithiol unigryw. Mae Ludus wedi troi teuluoedd a ffrindiau’r chwaraewyr yn hologramau. Ei gynllun? I’w uwchlwytho mewn i’w gêm am byth! Mae’r chwaraewyr yn ymweld â chwech o lefelau – pob un a gêm wahanol i’w chwarae. Wrth ennill, mae chwaraewyr yn...
Mae Sbarc yn gyfres wyddonol sy’n ateb pob math o gwestiynau mae rhai plant ifanc yn eu holi. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar un thema. Sbarc, y gwyddonydd, (Tudur Phillips) sy’n gosod y thema ac yn ymdrechu i ddod o hyd i’r atebion am y byd o’n cwmpas,...
Peis, lols a llond stiwdio o blant yn mwynhau’r sioe fyw gyda’r cyflwynwyr 30 wythnos o’r flwyddyn.
Cyfres antur awyr agored lle mae timau o blant yn cystadlu mewn sialensiau eithafol ac epig sy’n eu gwthio nhw i’r eithaf. Mae timau’n herio’i gilydd ar y tir, ar y dŵr ac yn yr awyr yn y gobaith o fachu lle yn y ffeinal ac ennill y gyfres.
Cyfres boblogaidd llawn comedi gwirion wedi ei leoli mewn ysbyty. Does byth eiliad dawel yn Ysbyty Hospital! Mae’r comedi yn y gyfres hon yn deillio o’r cymeriadau cryf fel y rheolwraig bwysig, y dirprwy uchelgeisiol, y nyrs niwrotig, y doctor anobeithiol, DJ...