Adnoddau
Lleolir Boom Cymru ym mae Caerdydd mewn swyddfa 5 llawr o’r enw Gloworks, a adeiladwyd yn unswydd ar gyfer y diwydiannau creadigol.
Y Stiwdios
Mae’n hadnoddau o fewn yr un adeilad, sef 2 stiwdio ar wahân, a galeri ddarlledu ganolog, sydd wedi eu cynllunio ar gyfer darlledu byw a rhaglenni sydd wedi’u recordio ‘mlaen llaw.

Stiwdio 1

Stiwdio 2
Mae gan y ddwy stiwdio gysylltedd ar gyfer 4 camera, a grid goleuo o dan reolaeth DMX.
Mae gan y galeri’r gallu i lanlwytho ai lawrlwytho lloeren, gyda linc parhaol i S4C.
Yn ogystal, mae gan Boom gwmni adnoddau offer ffilmio – sef Zoom! Mae gan Zoom amrywiaeth o gamerâu, offer sain a goleuo i’w llogi, ar gyfer gwaith stiwdio, PSC a ffilmio rig sefydlog.


Mae ein swyddfeydd yn Gloworks yn cael eu rhannu gyda Gorilla – cwmni ôl-gynhyrchu mwyaf Cymru sy’n arbenigio mewn gwaith teledu a ffilm.
Mae ganddynt dros 60 o systemau Avid, adnoddau graddio Baselight, yn ogystal â stiwdios dybio Pro Tools gyda ADR/VO, ac yn arwain y ffordd ym myd technoleg.
Mae portffolio Gorilla yn cynnwys rhaglenni chwaraeon, drama, adloniant a ffeithiol ar gyfer rhai o ddarlledwyr mwyaf Cymru.
Croeso i chi gysylltu i drafod sut gallwn helpu gyda’ch gofynion ôl-gynhyrchu.