Mae Meet the Experts yn dathlu gwybodaeth a llwyddiannau plant yn eu hobi neu eu arbenigedd.Mae pob un ohonom yn nabod plentyn sy’n angerddol am bwnc arbennig, mae’r gyfres hon yn rhoi llwyfan i’r plant yma ddangos eu sgil neu eu gwybodaeth, ac yna eu clodfori am eu dyfalbarhad a’u dycnwch. Bwriad y gyfres yw dangos y gweithgareddau a’r hobiau yma i blant eraill o’r un oed, er mwyn eu hysbrydoli nhw i fynd ati i chwilio am hobi hefyd. ‘Sdim rhaid i bawb fod yn arbenigwr ond mae hi wastad yn werth rhoi tro arni.
Meet the experts
Plant
