Itopia

Itopia

Drama 6 phennod ‘sci-fi’ llawn dirgelwch. Mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd – diwrnod lansio’r ddyfais gyfathrebu fwyaf cyffrous ers y ffôn symudol. Mae’r cwmni byd-eang ITOPIA yn rhyddhau’r ‘Z’ – dyfais chwyldroadol sy’n cael ei fewnblannu yn y glust, ac sy’n danfon gwybodaeth, negeseuon a sgyrsiau yn syth i’r ymennydd. Mae dyfeisiau ITOPIA yn rhan annatod o fywydau cenhedlaeth gyfan a sylfaenydd y cwmni, F.N. Stine, yn cael ei ystyried fel arwr iddynt. Mae Lwsi, sy’n bymtheg oed, yn methu aros i gael ‘Z’, ond mae ei chwaer hŷn, Alys, sy’n gweithio i ITOPIA, yn fwy pryderus.

Boom Plant
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV