Drama


Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Creisis

Creisis

Mae bywyd Jamie Morris yn gorwynt didrefn o geisio delio gydag un creisis ar ôl y llall. Fel gŵr, tad a nyrs seicatryddol, dyw hi ddim yn hawdd iddo droedio’r ffin denau rhwng pwyll a gwallgofrwydd. Rhwng ei fywyd cartref a’r llwyth gwaith o gleifion bregus yn y...
Boom
Boom Cymru Working with BBC One and BBC iPlayer
Men Up

Men Up

Drama wobrwyedig gan Boom a Quay Street Productions. Mae pum Cymro cyffredin yn cymryd rhan yn un o’r treialon meddygol cyntaf yn y byd am gyffur a ddatblygodd i fod yn Viagra. Yn ystod y broses, mae datblygiadau annisgwyl yn datgelu gwirioneddau dwys am eu bywydau a...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Enid a Lucy – Cyfres 2

Enid a Lucy – Cyfres 2

Cyfres ddrama llawn tensiwn a hiwmor tywyll gydag islais gwleidyddol a chymdeithasol. Mae taith y ddwy ffrind yn parhau yn yr ail gyfres gydag Enid, Lucy a babi Archie bellach yn byw o dan yr un to. Mae Lucy’n cael swydd mewn siop trin gwallt ac mae Brian, dyn gweddw...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Yr Amgueddfa

Yr Amgueddfa

Drama nwydus newydd am gwymp hunan-ddinistriol Della Howells; menyw lwyddiannus sy’n dechrau perthynas beryglus gyda dyn ifanc llawn cyfrinachau.   ‘The Welsh Lupin’ (Radio Times), ‘Hooked…great stuff!’ (Russell T Davies)
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
35 Diwrnod – Parti Plu

35 Diwrnod – Parti Plu

Mae pumed cyfres 35 Diwrnod yn ddrama gyfoes wedi ei gosod mewn tref glan môr ac yn ymwneud â pherthnasau hen a newydd sy’n symud a newid gyda’r llanw.  Mae’n dinoethi’r gwrthdaro rhwng y rhai tu mewn a tu allan i gymdeithas glos, a’r tensiynau sy’n dod o...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Enid a Lucy

Enid a Lucy

Cyfres ddrama pedair pennod yn llawn syspens a thensiwn gyda hiwmor tywyll ac islais gwleidyddol a chymdeithasol. Mae trafferth yn dilyn Lucy lle bynnag mae’n mynd. Yn fam ifanc sy’n cael ei churo gan ei phartner Denfer, mae pob dydd yn sialens. Un diwrnod mae Lucy’n...
Boom
Channel 5
15 Days

15 Days

Dyn ifanc yn cael ei saethu gan aelod o’i deulu … 15 diwrnod ynghynt mae’r teulu’n dychwelyd i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol cartref y teulu. Ond mae ‘na gyfrinachau teuluol … hen hanes … hen gynnen sy’n rhwygo’r teulu ar...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
35 Awr

35 Awr

Mae’r cloc yn tician yn y bedwaredd gyfres o 35 Diwrnod, ac er bod y gyfres yn dilyn yr un strwythur â’r cyfresi blaenorol, mae gwahaniaeth sylweddol. Gan gychwyn gyda marwolaeth amheus, rydym yn dilyn yr hanes y 35 awr yn arwain i’r digwyddiad.
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Morfydd

Morfydd

Ffilm bwerus ac emosiynol sy’n  seiliedig ar hanes trasig y gantores, y pianydd a’r gyfansoddwraig  dalentog o Drefforest Morfydd Owen. Ar ôl symud i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol fe wnaeth y ferch brydferth, fywiog yma fwynhau cwmni D H Lawrence,...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Pluen Eira

Pluen Eira

Mae’r Nadolig yn amser cyffrous i bawb ond bydd yr Ŵyl eleni yn un arbennig iawn i Clive a Rhi. Dyma eu Nadolig cyntaf gyda’u mab newydd Frank sy’n un ar ddeg mlwydd oed. Yn anffodus dyw hwyl yr Ŵyl ddim yn dod â gwen i wyneb Frank. A dweud y gwir yr unig beth sydd yn...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Y Streic a Fi

Y Streic a Fi

Ffilm gan Gwyneth Lewis sydd yn portreadu cyfnod cythryblus yn ein hanes – streic y glowyr 1984/1985. Merch ifanc o’r enw Carys yw’r prif gymeriad a chawn ddilyn y streic trwy ei phrofiadau a’i bywyd teuluol hi. Mae Carys yn 17 oed, ac yn torri ei bol eisiau gadael a...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
35 Diwrnod

35 Diwrnod

Dolwen. Hen dŷ mawreddog yng nghanol dyffryn cyfoethog, gwyrddlas. Ar ôl marwolaeth Mair mae ei phlant a’u teuluoedd yn dychwelyd yn ystod gwyliau’r haf i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol Dolwen. Mae yma gyfrinachau teuluol. Hen hanes....

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV