Cyfres ddrama pedair pennod yn llawn syspens a thensiwn gyda hiwmor tywyll ac islais gwleidyddol a chymdeithasol. Mae trafferth yn dilyn Lucy lle bynnag mae’n mynd. Yn fam ifanc sy’n cael ei churo gan ei phartner Denfer, mae pob dydd yn sialens. Un diwrnod mae Lucy’n cael y cyfle i ddianc gyda’i babi ac mae’n gofyn am help ei chymydog-Enid yr athrawes biano barchus ac ysgrifennydd cydwybodol y capel lleol.
Wrth ei heglu hi o Dde Cymru fe ddaw pob math o anturiaethau i ran y ddwy ffrind. Ond beth sydd yn y bag mae Lucy’n cuddio yng nghefn car Enid? A pham mae Denfer, Sid a’r llofrudd o wlad Pwyl, Majewski mor awyddus i’w gael yn ôl?
Dwy fam o gefndiroedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hollol wahanol. Un yn cynrychioli’r fam draddodiadol Gymreig a’r llall yn ymgorfforiad o’r fam fodern. Dwy fam ar daith emosiynol i ddarganfod pwrpas a gwerth i’w bywydau.Taith sy’n adlewyrchiad hefyd o hunaniaeth y Gymru gyfoes.