Cyfres o bump rhaglen fer ar gyfer plant 11- 13oed wedi’i chyflwyno gan ‘Criw Ymbarel’ yn dathlu amrywiaeth LHDT a hunaniaeth ymhlith pobol ifanc.
Cyfres ddrama gomedi i blant. Dilynwn hynt a helynt bywyd bob dydd Jac yn yr ysgol gyda’i ffrindiau, ac adref gyda’i deulu. Gyda chymeriadau fel Wncwl Ted, Anti Catz, Miss Mogg a Meic y Gofalwr mae’n deg dweud nad ydi bywyd Jac a’i ffrindiau’n ddiflas o bell...
Aled Samuel a’r cynllunydd mewnol Mandy Watkins sy’n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i fusnesu mewn gwahanol fathau o gartrefi hyfryd, chwaethus a diddorol. O fythynnod i dai newydd, o dai teras i Ffermdai, mae nhw i gyd yn cynig syniadau gwahanol ac yn wledd i’r...
Fersiwn Saesneg o’r gyfres Gymraeg wreiddiol. Yn dilyn arbrawf trychinebus gan gwmni cyfathrebu byd-eang Itopia, mae pobl yn troi’n greaduriaid tebyg i zombies, sef ‘Zeds’. Mae pum disgybl dewr yn cuddio yn eu hysgol, ond mae’r Zeds yn dod yn nes. Oes unrhyw un...
Ers lansio Cyw, gwasanaeth meithrin S4C yn 2008, mae Boom Plant yn gyfrifol am gynhyrchu dolenni ‘continuity’ y gwasanaeth. Mae Cyw yn darlledu yn ddyddiol rhwng 06:00-12:00 a 16:00-17:00, a rhwng 06:00-08:00 (Dydd Sadwrn) a 06:00-09:00 (Dydd Sul). Yn ogystal mae’r...
Cyfresi hanes byw sy’n ymwneud â chyfnodau mewn hanes o berspectif plentyn sy’n byw yn y cyfnod hwnnw, o Oes y Celtiaid a’r Canol Oesedd i Oes Fictoria a’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Y gyfres Gymraeg wreiddiol. Yn dilyn arbrawf trychinebus gan gwmni cyfathrebu byd-eang Itopia, mae pobl wedi cael eu heintio gan feirws sy’n eu troi’n Zombies, neu ‘Zeds’. Mae pum disgybl dewr yn cuddio yn eu hysgol, ond mae’r Zeds yn dod yn nes. A fydd y criw...
Cyfres i ddau dîm o gystadleuwyr a’ cefnogwyr. Dyma’r hanner awr mwyaf snotlyd o gemau gyda’r cyflwynywr Cadi a Gareth yn cadw trefn wrth i’r timau chwarae gemau gyda zorbs, rhaffau bynji, llwyfannau bownsio a wal felcro. Mae’r Tlws Trwynol yn mynd i’r tîm sy’n ennill...
Cyfres arbennig i fabis a phlant o dan bedair oed ydy Jamborî, sy’n dathlu perthynas arbennig plant â sain a cherddoriaeth ymhell cyn iddyn nhw ddechrau siarad a chyfathrebu.
Cyfres antur awyr agored lle mae timau o blant yn cystadlu mewn sialensiau eithafol ac epig sy’n eu gwthio nhw i’r eithaf. Mae timau’n herio’i gilydd ar y tir, ar y dŵr ac yn yr awyr yn y gobaith o fachu lle yn y ffeinal ac ennill y gyfres.
Mae’r cloc yn tician yn y bedwaredd gyfres o 35 Diwrnod, ac er bod y gyfres yn dilyn yr un strwythur â’r cyfresi blaenorol, mae gwahaniaeth sylweddol. Gan gychwyn gyda marwolaeth amheus, rydym yn dilyn yr hanes y 35 awr yn arwain i’r digwyddiad.
Ffilm bwerus ac emosiynol sy’n seiliedig ar hanes trasig y gantores, y pianydd a’r gyfansoddwraig dalentog o Drefforest Morfydd Owen. Ar ôl symud i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol fe wnaeth y ferch brydferth, fywiog yma fwynhau cwmni D H Lawrence,...