


35 Awr
Mae’r cloc yn tician yn y bedwaredd gyfres o 35 Diwrnod, ac er bod y gyfres yn dilyn yr un strwythur â’r cyfresi blaenorol, mae gwahaniaeth sylweddol. Gan gychwyn gyda marwolaeth amheus, rydym yn dilyn yr hanes y 35 awr yn arwain i’r digwyddiad.
Morfydd
Ffilm bwerus ac emosiynol sy’n seiliedig ar hanes trasig y gantores, y pianydd a’r gyfansoddwraig dalentog o Drefforest Morfydd Owen. Ar ôl symud i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol fe wnaeth y ferch brydferth, fywiog yma fwynhau cwmni D H Lawrence,...
Pluen Eira
Mae’r Nadolig yn amser cyffrous i bawb ond bydd yr Ŵyl eleni yn un arbennig iawn i Clive a Rhi. Dyma eu Nadolig cyntaf gyda’u mab newydd Frank sy’n un ar ddeg mlwydd oed. Yn anffodus dyw hwyl yr Ŵyl ddim yn dod â gwen i wyneb Frank. A dweud y gwir yr unig beth sydd yn...
BBC Ideas
Prosiect fideo digidol ffeithiol, cyffrous yw BBC Ideas, sy’n canolbwyntio ar herio a hysbysu’r gynulleidfa. Ei nod ers ei sefydlu yn 2018 yw cynhyrchu ‘ffilmiau byr ar gyfer meddyliau chwilfrydig’.
Hansh Podcasts (Hanshcasts)
Mae platfform digidol S4C wedi ffrwydro yn ddiweddar, gyda’r cynnwys a’r gynulleidfa’n tyfu ac yn mynd o nerth i nerth. Mae hyn yn gyfle i sbarduno trafodaeth ehangach rhwng y gwrandawyr. Mewn cyfres o bodlediadau wythnosol rhwng 20m-30m o hyd, y bwriad yw defnyddio...
24 Awr
Mae ’24 Awr yn …’ yn gyfres sy’n dangos rhyfeddodau’r byd. Yn y strand yma, mae Cai Morgan yn teithio i wahanol wledydd i chwilio am y pethau rhyfeddol mae’r wlad dan sylw yn eu cynnig … mewn 24 awr.
Sgrameer
Mae Sgrameer wedi profi ei hun i fod yn un o gyflwynwyr mwyaf hoffus a phoblogaidd Hansh. Mae Ameer yn parhau i adolygu bwytai Cymru a hefyd ymddangos yn rhagor o eitemau Hansh gan ei fod mor boblogaidd.
Bry
Un o gyfresi mwyaf poblogaidd Boom ar Hansh yw BOCS BRY. DJ Bry yw un o wynebau mwyaf cyfarwydd y we yn yr iaith Gymraeg erbyn hyn. Mae Bry yn parhau i edrych ar gyfleoedd i ddychanu ac i drafod gwahanol agweddau o’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt.
Only Men Aloud – Bollywood
Ym mis Ionawr 2017, fe aeth Only Men Aloud a’i steil unigryw o gerddoriaeth i India. Tra ym Mumbai, fe’i heriwyd i ddysgu cân newydd sbon mewn Hindi a gyfansoddwyd gan Rahul Pandey, sydd yn ysgrifennu ac yn perfformio i’r diwydiant ffilm Bollywood. Treuliodd OMA...
Cyw a’r Gerddorfa
Cyngerdd i ddathlu pen-blwydd Cyw yn 10 mlwydd oed gyda chymeriadau adnabyddus Cyw – Tref a Tryst, Ben Dant, Dona Direidi, Radli Miggins, Elin, Huw a Deian a Loli yn ymuno â’i gilydd mewn sioe arbennig llawn cerddoriaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y...