Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Boom Social wedi cynhyrchu dros 180 o eitemau ffurf fer i sianel ar-lein S4C, Hansh. Un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd yw’r gyfres o sgetsys ‘Y Math o Bobl Chi’n Gweld …’ gyda doniau dynwaredol yr actor Geraint Rhys Edwards wrth y llyw. Ym...
Mae Boom Social yn cydweithio’n rheolaidd gydag adran farchnata Dŵr Cymru. Mae ein prosiect diweddaraf yn seiliedig ar fideos hyfforddi ‘spoof,’ gyda’r cyflwynydd DJ Bry yn cyflwyno. Yn y gyfres mae Bry yn dangos arferion da a drwg wrth weithio i Dŵr Cymru ac mae’r...
Mae Garmon ab Ion – cyflwynydd Hansh a’r DJ poblogaidd – yn teithio i Batagonia ar gyfer y ddogfen gomedi arsylwol yma, ac yn holi pwy yn union sy’n pererindota i Batagonia, y paradwys iwtopaidd ar ben draw’r byd a pham mynd i’r holl drafferth Wrth gystadlu yn yr...
‘Sut mae pêl-droed wedi fy nghyflwyno i i fy mywyd newydd Cymreig’ Mae’r ffilm fer hon yn dilyn siwrnau dau ffoadur o Syria, Muhanad Alchikh a’i fab Shadi, ac yn dysgu sut mae eu bywydau wedi cael eu trawsnewid gan bêl-droed, wrth iddynt fynd ar daith emosiynol o’u...
Mewn Cyfyng Gyngor – sitcom am hynt a helynt Cymro ifanc sy’n hannu o’r gorllewin sydd wedi symud i Gaerdydd i weithio fel swyddog gwastraff … a sy’ ddim rili moyn symud nôl! Dilyniant ac esblygiad o rai o hoff gymeriadau Hansh – DJ Bry a...
‘Un Cwestiwn’ yw’r raglen sy’n troi’r fformat cwis ar ei ben. Y cwestiwn gynta welwch chi yw’r un hollbwysig – ateb hwnw’n gywir i gipio’r tlws. Ond i gael cyfle i ateb yr ‘Un Cwestiwn’ rhaid aros yn y gêm am 4 rownd. Yn ogystal, y mwya o atebion cywir yn ystod y...
Mae Huw Stephens ar bererindod cerddorol ar draws Cymru, yn sgwrsio â rhai o’i arwyr cerddorol, ac yn gwrando ar gerddoriaeth diri. O Gaerdydd i Geredigion, o Glwyd i Gaernarfon, mae’n cwrdd â rhai o’i arwyr cerddorol yn cynnwys Meic Stevens, Dave Datblygu a...
Cyfres ddrama pedair pennod yn llawn syspens a thensiwn gyda hiwmor tywyll ac islais gwleidyddol a chymdeithasol. Mae trafferth yn dilyn Lucy lle bynnag mae’n mynd. Yn fam ifanc sy’n cael ei churo gan ei phartner Denfer, mae pob dydd yn sialens. Un diwrnod mae Lucy’n...
Be chi’n cael os chi’n rhoi cyfle i blant fynd amdani am y tro cyntaf yn y gegin a chael hwyl wrth goginio? Potsh wrth gwrs! Leah Gaffey a Dyfed Cynan, ein cyflwynwyr, fydd yn helpu’r tîm pinc a’r tîm glas yn y gegin wrth iddyn nhw drio ennill y Pinafal Aur! O fewn...
Y rhaglen deledu i bob ffan rygbi ifanc. Wyt ti eisiau gwella dy sgiliau rygbi di? Mae Heledd a Billy yma i helpu, gyda chyngor chwaraewyr proffesiynol a hyfforddwyr timau rygbi Cymru ar y pryd.
Dyn ifanc yn cael ei saethu gan aelod o’i deulu … 15 diwrnod ynghynt mae’r teulu’n dychwelyd i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol cartref y teulu. Ond mae ‘na gyfrinachau teuluol … hen hanes … hen gynnen sy’n rhwygo’r teulu ar...
Mae prynu neu werthu tŷ yn rhywbeth mae nifer fawr ohonon ni’n ei wneud o leia’ unwaith yn ein bywydau a dydy e ddim wastad yn hawdd! Yn ystod un o gyfnodau mwyaf heriol y diwydiant fe fyddwn ni’n dilyn rhai o werthwyr tai amlycaf Cymru, a phrofi’r holl emosiwn a’r...