Cymry Feiral

,
Cymry Feiral

Rhaglen gomedi ‘pry-ar-y-wal’ gyda doniau dynwaredol Geraint Rhys Edwards (a’i ffrindiau!) yn llywio’r cyfan. Fe fyddwn yn dilyn taith pedwar Cymro ifanc sydd ar bedair hewl wahanol – un yn carlamu i gopa’r byd busnes (Shanice L’Aventure), un yn saethu i frig Siartiau Selar (Guto Sgubs), un i syfrdannu llwyfannau Broadway (Lleucu Lleu) ac un ar ei daith i fod y Saunders Lewis nesaf … ond gwell (Siâms Cedwyn).

Gafaelwch yn dynn ar beth bynnag sydd agosa’ atoch chi achos bydd hon yn reid a hanner. Dychanol, doniol, beiddgar, boncyrs.

Mae nhw’n aros amdanon ni… a ‘dan ni gyd yn eu nabod nhw.

Rydych chi wedi cael eich rhybuddio…

Boom Cymru
S4C

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV