Ffeithiol
Gyrru Trwy Storom
Yn y ddogfen “Gyrru Drwy Storom” rydym yn cwrdd â mam ifanc (Alaw Griffiths) sydd wedi dioddef iselder ar ôl geni ei 2 blentyn. Wedi brwydro, a dod dros y salwch, ar ôl genedigaeth ei merch Lleucu, doedd hi methu credu fod y salwch wedi mynd yn drech na hi...
Ceffylau Cymru
Yn yr ail gyfres o Ceffylau Cymru, mae David Oliver yn cael cwmni cyflwynydd newydd – Nia Marshalsay-Thomas, wrth deithio i ymweld â cheffylau, y perchnogion, y stablau a’r iardiau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Mae’r ddau yn cymryd cipolwg ar bob math o gampau...
Ar Werth
Cyfresi sy’n dilyn hynt a helynt rhai o werthwyr tai mwyaf lliwgar Cymru wrth iddynt brofi uchafbwyntiau a sialensiau o roi tŷ … Ar Werth!
Coastal Lives — Glamorgan
O’r cymeriadau lliwgar sy’n rhedeg Ffair eiconig Ynys y Barri, i berchennog a garddwr dawnus Castell Ffonmon sy’n gobeithio ennill Y Bwmpen Orau yn Sioe Flynyddol Bro Morgannwg … i Benarth a phâr o deithwyr flogio ddaeth yn enwog ar ôl slepjen...
Corff Cymru: Bywyd
Drwy gydol ein bywyd mae’r corff yn newid yn gyfan gwbl. Bydd cyfres Corff Cymru: Bywyd yn edrych ar y camau mawr sy’n digwydd wrth i ni dyfu; o fod yn faban bach newydd i’r newidiadau mawr sy’n dod law yn llaw â bywyd hwyrach. Bydd Dr Anwen Jones a Dr Katie Hemer yn...
#welshteens My Perfect Body
Mae cyfryngau cymdeithasol, pwysau gan ffrindiau a’r diwylliant ‘selebs’ yn dod yn fwy pwysig ym mywydau pobl yn eu harddegau, ac yn sgil hyn nid yw’n syndod bod materion yn ymwneud â delwedd gorfforol yn cynyddu. Mae #welshteens My Perfect Body yn edrych ar y pwysau...
Corff Cymru: Cariad
Pam ein bod ni’n cwympo mewn Cariad? Beth sy’n gwneud rhywun yn atyniadol? Sut mae Cariad yn effeithio ar yr ymennydd? Yn y rhaglen arbennig hon o Corff Cymru, bydd Dr Anwen Jones a Dr Katie Hemer yn bwrw llygaid gwyddonol ar y teimlad syfrdanol ac unigryw hwnnw:...
Fy Nhad y Swltan?
Dilynwn stori anhygoel Keith Williams (Keith y Glo) o Benygroes ger Rhydaman, wrth iddo deithio i Falaysia i geisio darganfod pwy oedd ei dad. Mabwysiadwyd Keith yn fabi, a phenderfynodd fynd ar drywydd ei rieni gwaed wedi i’w rieni mabwysiedig farw. Wedi cwrdd...
Cegin Bryn
Mae Cegin Bryn yn dychwelyd i’r sgrin, gyda’r cogydd Bryn Williams yn cael ei ysbrydoli gan gyfoeth naturiol ein tir a môr. Gan ddefnyddio ryseitiau o’i lyfr Cymraeg ‘Tir a Môr’, gwelwn Bryn yn coginio sawl pryd blasus yn y gegin ac ar draws cefn gwlad ac arfordir...
Copa — Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle
I gyd-fynd â dathliadau 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia, mae’r rhaglen hon yn dathlu perthynas dau ddyn, dwy wlad, un siwrnai, ac yn destament i fywyd anturus ac unigryw’r dringwr Eric Jones o Dremadog. Mae Eric yn datgelu atgofion a...