Rhaglen sy’n talu teyrnged i’r Groggs eiconig sy’n dathlu eu pen-blwydd yn 50 eleni. Cawn glywed yr hanes tu ôl i’r ffigyrau bach clai byd enwog a gynhyrchir gan gwmni ‘World of Groggs’ ger Pontypridd. Dros yr hanner canrif...
Mae llawer yn ystyried Alun Lewis fel prif awdur Prydeinig yr Ail Ryfel Byd. Fe’i ganed yng nghymoedd de Cymru a chafodd ei ladd dramor pan oedd ond yn wyth ar hugain oed. Ond mae’r cerddi, y llythyrau a’r storïau a adawodd ar ei ôl yn ei osod fel un o fawrion ein...
Mae Jess Davies o Aberystwyth yn un o brif fodelau ‘glamour’ Prydain. Mae’r rhaglen hon yn edrych ar ba mor berthnasol yw tudalen 3 bellach drwy lygaid Jess, yn ogystal ag academyddion blaenllaw, golygyddion cylchgronau a ffotograffwyr sydd ynghlwm a’r diwydiant....
Yn yr ail gyfres o Caeau Cymru, mae Brychan Llŷr yn datgloi hanes a chyfrinachau ein cymunedau gwledig, trwy ddadansoddi ac ymchwilio i’r enwau a ddefnyddir ar ein tiroedd. Yn gwmni i Brychan mae’r hanesydd Dr Rhian Parry, ac mae’r ddau yn trafod caeau a thiroedd...
Cyfres Hanes Byw lle mae 17 unigolyn dewr yn teithio yn ôl i’r flwyddyn 1525. Mae’r gyfres yn dilyn llwyddiant cyfres Y Plas, oedd yn canolbwyntio ar fywyd mewn plasty yn Llanerchaeron ym 1910. Y tro yma rydym yn teithio i Oes y Tuduriaid pan oedd...
Cyfres hanes byw lle bydd pobl heddiw yn camu i fyd y plasty yn 1910. Yn Y Plas, mae teulu ynghyd â deuddeg o unigolion dewr eraill yn byw ym Mhlas Llanerchaeron – tŷ sydd wedi cael ei gadw yn union fel ag yr oedd – am dair wythnos a hynny dan amodau Cymru...
Cyfres uchelfan S4C yn ymwneud â chartrefi, pensaerniaeth a chynllunio mewnol. Ers troad y Mileniwm, bu’r cyflwynydd Aled Samuel yn ymweld â rhai o gartrefi mwyaf diddorol a chyffrous Cymru, yn ogystal â chartrefi Cymry sy’n byw dros y ffîn, yn Ewrop a thu hwnt. Yn...
Bydd y bedwaredd gyfres o Cegin Bryn yn seiliedig ar lyfr newydd y cogydd Bryn Williams ‘For the Love of Veg’ ac yn benodol ar y Clybiau Swper sydd yn defnyddio un llysieuyn mewn pedwar cwrs. Bydd y rhaglenni yn cyfuno coginio mewn cegin yng Nghaerdydd â choginio yn...
Dyma hanes Hannah Clark, merch gyffredin o Aberpennar, De Cymru â stori anghyffredin am oroesi. Yn dioddef o salwch calon ddifrifol yn ddwy oed, dim ond gwaith y llawfeddyg blaenllaw Syr Magdi Yacoub allai achub ei bywyd. Byddai ei lawdriniaeth arloesol yn creu hanes...
Mae Cymru wedi cynhyrchu rhai o awduron a beirdd mwyaf poblogaidd a nodedig y degawdau diwethaf; rhai sydd wedi cyrraedd brig y siartiau gwerthu ac sy’n llwyddo i blesio’r beirniaid. Er hynny, nid yw’r awduron na’r beirdd yma wedi derbyn y clod y maent yn...
Mae’r bardd Dylan Thomas yn enwog led-led y byd. Ond yn amlach na pheidio canolbwyntir ar hanes tymhestlog ei fywyd yn hytrach nag ar ei weithiau. Mae’r bardd Cymreig Owen Sheers am fynd nol at yr hyn wnaeth greu’r cyffro yn y lle cyntaf: y...
Ffilm bwerus a theimladwy a awdurwyd gan yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields o Lanelli, sy’n dioddef o Gyflwr Fields. Wrth nesu at eu penblwydd yn 18 oed, fe gawsant offer i’w cynorthwyo i gyfathrebu eu meddyliau a’u hofnau am y tro cyntaf ers...