
Drama


Men Up
Ffilm dwymgalon sy’n adrodd hanes pum Cymro cyffredin a gymerodd ran yn un o’r treialon meddygol cyntaf yn y byd am gyffur a ddatblygodd i fod yn Viagra, a’i effaith ar eu bywydau. Enillydd Gwobr RTS Cymru a Gwobr Rockie Banff World Media Festival 2024...
Yr Amgueddfa
Drama nwydus newydd am gwymp hunan-ddinistriol Della Howells; menyw lwyddiannus sy’n dechrau perthynas beryglus gyda dyn ifanc llawn cyfrinachau. ‘The Welsh Lupin’ (Radio Times), ‘Hooked…great stuff!’ (Russell T Davies)
35 Diwrnod – Parti Plu
Mae pumed cyfres 35 Diwrnod wedi ei lleoli yng nghymuned glos tref glan môr fach, lle mae grŵp o hen ffrindiau ysgol yn cwrdd wedi cyfnod hir ar wahân. Ydi llinyn eu hanes yn ddigon cryf i’w clymu at ei gilydd? Mae eu perthynas â’i gilydd yn raddol ddod...
Enid a Lucy
Cyfresi drama sy’n dilyn hanes dwy fam o gefndiroedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hollol wahanol, a’r ddwy ar daith emosiynol i ddarganfod pwrpas a gwerth i’w bywydau; taith sy’n adlewyrchiad o hunaniaeth y Gymru gyfoes, ond gyda...
15 Days
Dyn ifanc yn cael ei saethu gan aelod o’i deulu … 15 diwrnod ynghynt mae’r teulu’n dychwelyd i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol cartref y teulu. Ond mae ‘na gyfrinachau teuluol … hen hanes … hen gynnen sy’n rhwygo’r teulu ar...
35 Awr
Mae’r cloc yn tician yn y bedwaredd gyfres o 35 Diwrnod, ac er bod y gyfres yn dilyn yr un strwythur â’r cyfresi blaenorol, mae gwahaniaeth sylweddol. Gan gychwyn gyda marwolaeth amheus, rydym yn dilyn yr hanes y 35 awr yn arwain i’r digwyddiad.
Morfydd
Ffilm bwerus ac emosiynol sy’n seiliedig ar hanes trasig y gantores, y pianydd a’r gyfansoddwraig dalentog o Drefforest Morfydd Owen. Ar ôl symud i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol fe wnaeth y ferch brydferth, fywiog yma fwynhau cwmni D H Lawrence,...
Pluen Eira
Mae’r Nadolig yn amser cyffrous i bawb ond bydd yr Ŵyl eleni yn un arbennig iawn i Clive a Rhi. Dyma eu Nadolig cyntaf gyda’u mab newydd Frank sy’n un ar ddeg mlwydd oed. Yn anffodus dyw hwyl yr Ŵyl ddim yn dod â gwen i wyneb Frank. A dweud y gwir yr unig beth sydd yn...
Y Streic a Fi
Ffilm gan Gwyneth Lewis sydd yn portreadu cyfnod cythryblus yn ein hanes – streic y glowyr 1984/1985. Merch ifanc o’r enw Carys yw’r prif gymeriad a chawn ddilyn y streic trwy ei phrofiadau a’i bywyd teuluol hi. Mae Carys yn 17 oed, ac yn torri ei bol eisiau gadael a...
35 Diwrnod
Dolwen. Hen dŷ mawreddog yng nghanol dyffryn cyfoethog, gwyrddlas. Ar ôl marwolaeth Mair mae ei phlant a’u teuluoedd yn dychwelyd yn ystod gwyliau’r haf i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol Dolwen. Mae yma gyfrinachau teuluol. Hen hanes....