Drama


Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Creisis

Creisis

Mae bywyd Jamie Morris yn gorwynt didrefn o ddelio gydag un creisis ar ôl y llall. Fel gŵr, tad a nyrs seicatryddol, dyw hi ddim yn hawdd cadw’r ddesgl yn wastad. Ac mae sefyllfa’n datblygu a fydd yn golygu bod Jamie’n gorfod wynebu ei greisis ei hun...
Boom
Boom Cymru Working with BBC One and BBC iPlayer
Men Up

Men Up

Ffilm dwymgalon sy’n adrodd hanes pum Cymro cyffredin a gymerodd ran yn un o’r treialon meddygol cyntaf yn y byd am gyffur a ddatblygodd i fod yn Viagra, a’i effaith ar eu bywydau. Enillydd Gwobr RTS Cymru a Gwobr Rockie Banff World Media Festival 2024...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Yr Amgueddfa

Yr Amgueddfa

Drama nwydus newydd am gwymp hunan-ddinistriol Della Howells; menyw lwyddiannus sy’n dechrau perthynas beryglus gyda dyn ifanc llawn cyfrinachau.   ‘The Welsh Lupin’ (Radio Times), ‘Hooked…great stuff!’ (Russell T Davies)
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
35 Diwrnod – Parti Plu

35 Diwrnod – Parti Plu

Mae pumed cyfres 35 Diwrnod wedi ei lleoli yng nghymuned glos tref glan môr fach, lle mae grŵp o hen ffrindiau ysgol yn cwrdd wedi cyfnod hir ar wahân.  Ydi llinyn eu hanes yn ddigon cryf i’w clymu at ei gilydd? Mae eu perthynas â’i gilydd yn raddol ddod...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Enid a Lucy

Enid a Lucy

Cyfresi drama sy’n dilyn hanes dwy fam o gefndiroedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hollol wahanol, a’r ddwy ar daith emosiynol i ddarganfod pwrpas a gwerth i’w bywydau; taith sy’n adlewyrchiad o hunaniaeth y Gymru gyfoes, ond gyda...
Boom
Channel 5
15 Days

15 Days

Dyn ifanc yn cael ei saethu gan aelod o’i deulu … 15 diwrnod ynghynt mae’r teulu’n dychwelyd i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol cartref y teulu. Ond mae ‘na gyfrinachau teuluol … hen hanes … hen gynnen sy’n rhwygo’r teulu ar...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
35 Awr

35 Awr

Mae’r cloc yn tician yn y bedwaredd gyfres o 35 Diwrnod, ac er bod y gyfres yn dilyn yr un strwythur â’r cyfresi blaenorol, mae gwahaniaeth sylweddol. Gan gychwyn gyda marwolaeth amheus, rydym yn dilyn yr hanes y 35 awr yn arwain i’r digwyddiad.
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Morfydd

Morfydd

Ffilm bwerus ac emosiynol sy’n  seiliedig ar hanes trasig y gantores, y pianydd a’r gyfansoddwraig  dalentog o Drefforest Morfydd Owen. Ar ôl symud i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol fe wnaeth y ferch brydferth, fywiog yma fwynhau cwmni D H Lawrence,...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Pluen Eira

Pluen Eira

Mae’r Nadolig yn amser cyffrous i bawb ond bydd yr Ŵyl eleni yn un arbennig iawn i Clive a Rhi. Dyma eu Nadolig cyntaf gyda’u mab newydd Frank sy’n un ar ddeg mlwydd oed. Yn anffodus dyw hwyl yr Ŵyl ddim yn dod â gwen i wyneb Frank. A dweud y gwir yr unig beth sydd yn...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Y Streic a Fi

Y Streic a Fi

Ffilm gan Gwyneth Lewis sydd yn portreadu cyfnod cythryblus yn ein hanes – streic y glowyr 1984/1985. Merch ifanc o’r enw Carys yw’r prif gymeriad a chawn ddilyn y streic trwy ei phrofiadau a’i bywyd teuluol hi. Mae Carys yn 17 oed, ac yn torri ei bol eisiau gadael a...
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
35 Diwrnod

35 Diwrnod

Dolwen. Hen dŷ mawreddog yng nghanol dyffryn cyfoethog, gwyrddlas. Ar ôl marwolaeth Mair mae ei phlant a’u teuluoedd yn dychwelyd yn ystod gwyliau’r haf i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol Dolwen. Mae yma gyfrinachau teuluol. Hen hanes....
Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c
Albi a Noa yn achub yr Iwnifyrs

Albi a Noa yn achub yr Iwnifyrs

Dyma ffilm gerdd i’r teulu cyfan sy’n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o’r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw’n brysur tu hwnt. Mae Noa’n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus...