Cyfres antur eithafol gyda phedwar tîm o blant ar goll yn rhywle yn y gwyllt. Eu nod yw cyrraedd lloches ddiogel cyn i’r haul fachlud a chyn bod Gwrach y Rhibyn yn ymddangos …
Mae Meet the Experts yn dathlu gwybodaeth a llwyddiannau plant yn eu hobi neu eu harbenigedd, i ysbrydoli plant eraill i chwilio am hobi mae’n nhw’n ei garu.
Criw Stwnsh yn cyflwyno chwedlau Cymru mewn ffordd ti ‘rioed ‘di weld o’r blaen! Yr wythnos hon, dyma eu fersiwn nhw o stori Geraint ac Enid. Digon o hwyl, chwerthin a chanu!
Cyfresi hanes byw sy’n ymwneud â chyfnodau mewn hanes o berspectif plentyn sy’n byw yn y cyfnod hwnnw, o Oes y Celtiaid a’r Canol Oesedd i Oes Fictoria a’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfresi sgetsys, caneuon dwl a spoofs sydd ddim Chwarter Call! Gyda chast sy’n mynd yn fwy gwirion bob cyfres, un peth sy’n siŵr, bydd wastad lot o lols.
Cyfres wyddoniaeth adloniadol i blant 7 – 11 mlwydd oed. Mae’r brodyr Rhys ac Aled Bidder sy’n angerddol am bopeth wyddonol yn ôl gyda’r arbrofion gwyddonol sy’n rhyfeddol, anhygoel ac yn rhy beryglus i’w gwneud adre’.
Cyfresi drama sci-fi wedi eu lleoli mewn byd lle mae’r cawr tech ITOPIA yn dylanwadu ar fywyd cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc, ond oes agenda fwy sinistr ar waith yma …? Enillydd Torc Rhagoriaeth Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd 2023.
Tudur Owen, Sian Harries a’r criw sy’n cymryd golwg ddychanol ar ddigwyddiadau 2021. Er gwaethaf Covid bu’n flwyddyn ddifyr ac amrywiol yng Nghymru a thu hwnt – Mark Drakeford yn dangos ei ddannedd, silffoedd yr archfarchnadoedd yn wag, trafnidiaeth camlas Suez yn dod...
Priodas Pum Mil – dyma gyfle euraidd i saith gwahanol gwpl ddweud ‘Gwnaf’ a pheidio gorfod torchi llewys o ran y gwaith trefnu! Cyfrifoldeb criw o deulu a ffrindiau penodedig fydd y gwaith o greu’r diwrnod priodas perffaith a chadw pob dim yn gyfrinach wrth y...
Cyfres fore Sadwrn fyw i blant 6-10 mlwydd oed, yn llawn cystadleuthau, gweithgareddau a gemau rhyngweithiol, a chyfleuon i fod yn rhan o’r darllediad. Gyda thîm o gyflwynwyr egniiol, mae’r gyfres yn darlledu am 30 wythnos o’r flwyddyn.
Mae’r gyfres boblogaidd hon ar ei chweched gyfres, sy’n dilyn tîm arbennig o ddermatolegwyr a nyrsys yn ein clinig, yn helpu pobl â phob math o broblemau’r croen. Lisa Riley sy’n adrodd eu hanes.
Ymunwn â thri pherson adnabyddus wrth iddynt baratoi pryd o fwyd tri-chwrs yn eu cegin gartref. Fe fydd pob seleb yn gyfrifol am ddewis un cwrs ond yn gorfod taclo’r ddau gwrs arall yn ogystal. Ni fydd y tri yn gwybod pwy fydd yn rhannu eu “bwrdd i dri” nes...