Priodas Pum Mil

Priodas Pum Mil

Priodas Pum Mil – dyma gyfle euraidd i saith gwahanol gwpl ddweud ‘Gwnaf’ a pheidio gorfod torchi llewys o ran y gwaith trefnu! Cyfrifoldeb criw o deulu a ffrindiau penodedig fydd y gwaith o greu’r diwrnod priodas perffaith a chadw pob dim yn gyfrinach wrth y cwpl nes y diwrnod mawr! Gyda’r briodas arferol bron yn bwrw £20,000, mae cadw at y pum mil yn her a hanner!

Gyda’r cyflwynwyr Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford yn cadw’r trefnwyr a’u gwario ar y llwybr cul, mae’n gyfle i droi at gymorth y gymuned leol i geisio gwneud y mwyaf o’r pum mil. Bydd ffrwyth eu llafur i’w weld ar y diwrnod mawr, gan obeithio taw gwenu bydd ein cyplau wrth inni ddatgelu un syrpreis ar ôl y llall

Saith cwpl, saith priodas, saith modd o ddweud ‘gwnaf’ – a hyn oll am ddim mwy na phum mil o bunnau!

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV