Rhaglen gomedi ‘pry-ar-y-wal’ gyda doniau dynwaredol Geraint Rhys Edwards (a’i ffrindiau!).
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Boom Social wedi cynhyrchu dros 180 o eitemau ffurf fer i sianel ar-lein S4C, Hansh. Un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd yw’r gyfres o sgetsys ‘Y Math o Bobl Chi’n Gweld …’ gyda doniau dynwaredol yr actor Geraint Rhys Edwards wrth y llyw. Ym...
Mae Boom Social yn cydweithio’n rheolaidd gydag adran farchnata Dŵr Cymru. Mae ein prosiect diweddaraf yn seiliedig ar fideos hyfforddi ‘spoof,’ gyda’r cyflwynydd DJ Bry yn cyflwyno. Yn y gyfres mae Bry yn dangos arferion da a drwg wrth weithio i Dŵr Cymru ac mae’r...
Mae Garmon ab Ion – cyflwynydd Hansh a’r DJ poblogaidd – yn teithio i Batagonia ar gyfer y ddogfen gomedi arsylwol yma, ac yn holi pwy yn union sy’n pererindota i Batagonia, y paradwys iwtopaidd ar ben draw’r byd a pham mynd i’r holl drafferth Wrth gystadlu yn yr...
‘Sut mae pêl-droed wedi fy nghyflwyno i i fy mywyd newydd Cymreig’ Mae’r ffilm fer hon yn dilyn siwrnau dau ffoadur o Syria, Muhanad Alchikh a’i fab Shadi, ac yn dysgu sut mae eu bywydau wedi cael eu trawsnewid gan bêl-droed, wrth iddynt fynd ar daith emosiynol o’u...
Mewn Cyfyng Gyngor – sitcom am hynt a helynt Cymro ifanc sy’n hannu o’r gorllewin sydd wedi symud i Gaerdydd i weithio fel swyddog gwastraff … a sy’ ddim rili moyn symud nôl! Dilyniant ac esblygiad o rai o hoff gymeriadau Hansh – DJ Bry a...
Prosiect fideo digidol ffeithiol, cyffrous yw BBC Ideas, sy’n canolbwyntio ar herio a hysbysu’r gynulleidfa. Ei nod ers ei sefydlu yn 2018 yw cynhyrchu ‘ffilmiau byr ar gyfer meddyliau chwilfrydig’.
Mae platfform digidol S4C wedi ffrwydro yn ddiweddar, gyda’r cynnwys a’r gynulleidfa’n tyfu ac yn mynd o nerth i nerth. Mae hyn yn gyfle i sbarduno trafodaeth ehangach rhwng y gwrandawyr. Mewn cyfres o bodlediadau wythnosol rhwng 20m-30m o hyd, y bwriad yw defnyddio...
Mae ’24 Awr yn …’ yn gyfres sy’n dangos rhyfeddodau’r byd. Yn y strand yma, mae Cai Morgan yn teithio i wahanol wledydd i chwilio am y pethau rhyfeddol mae’r wlad dan sylw yn eu cynnig … mewn 24 awr.
Mae Sgrameer wedi profi ei hun i fod yn un o gyflwynwyr mwyaf hoffus a phoblogaidd Hansh. Mae Ameer yn parhau i adolygu bwytai Cymru a hefyd ymddangos yn rhagor o eitemau Hansh gan ei fod mor boblogaidd.
Un o gyfresi mwyaf poblogaidd Boom ar Hansh yw BOCS BRY. DJ Bry yw un o wynebau mwyaf cyfarwydd y we yn yr iaith Gymraeg erbyn hyn. Mae Bry yn parhau i edrych ar gyfleoedd i ddychanu ac i drafod gwahanol agweddau o’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt.