Scott Quinnell sy’n teithio ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau newydd, amrywiol, gyda chanlyniadau difyr ac weithiau annisgwyl!
Golwg ar amrywiaeth eang o dalent gorau byd y celfyddydau cyfoes yng Nghymru gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy.
Mae Emma Walford a Trystan Ellis-Morris, gyda’r dylunydd Gwyn Eiddior, yn teithio hyd a lled Cymru yn helpu prosiectau cymunedol gyda dim ond pum mil o bunnoedd yn y cyfresi poblogaidd hyn.
Cyfresi llawn hwyl yng nghwmni’r cogydd a’r cerddor Big Zuu wrth iddo baratoi bwyd i’w westeion enwog a sgwrsio gyda nhw am bob math o bynciau difyr. Enilydd enwebiadau niferus a llawer o wobrau, gan gynnwys dwy BAFTA UK.
Tudur Owen, Sian Harries a’r criw sy’n bwrw golwg ddychanol dros ddigwyddiadau’r flwyddyn, nawr ei bod yn dirwyn i ben – o’r diwedd!
Nawr ar ei phumed gyfres, mae Iaith ar Daith yn parhau i hebrwng chwe seleb a’u mentoriaid adnabyddus ar hyd a lled Cymru i ddysgu Cymraeg – llond gwlad o hwyl ac emosiwn fel ei gilydd.
Mae Big Zuu yn ôl ac yn coginio dau bryd blasus iawn mewn dwy raglen Nadoligaidd. Bydd ef a’i griw, Tubsey a Hyder allan yn eu fan bwyd yn paratoi gwledd Nadoligaidd i westeion arbennig. Yn Big Zuu’s Christmas Eats: Musicians Special mae Zuu yn coginio i rai o...
Mae Sam Evans a Shauna Guinn wedi ysgubo byd coginio deheuol yr Unol Daleithiau. Nawr maen nhw’n cychwyn ar daith arbennig yn eu cyfres newydd. Eu nod… newid ein dull o goginio barbeciw a dathlu cymunedau gwych ar hyd a lled Cymru â’u coginio awyr agored...
Dyma’r lle i glywed barn y bobol. Mi fydd ein camerau “fixed rig” yn dod a sylwadau gonest, digri’ a dadleuol y cwsmeriaid i’r sgrin wrth ymateb i benawdau’r wythnos honno. Mae’r gyfres yn cael ei recordio mewn salons trin gwallt o...
Mae Emma Walford a Trystan Ellis-Morris yn helpu cyplau ledled Cymru drwy drefnu eu priodas am ddim ond pum mil o bunnau – a llwyth o help gan deulu a ffrindiau! – yn y cyfresi poblogaidd hyn.
Ers canrifoedd bellach mae Cymru’n cael ei adnabod fel gwlad y gân. Ond mae gan y genedl gariad mawr arall hefyd wrth gwrs – rygbi. Ym mlwyddyn Cwpan Rygbi’r Byd felly, pa well ffordd i gyfuno dau gariad y genedl na Codi Canu Cwpan Rygbi’r Byd 2015? Daw pum côr...
Cyfres newydd sbon yng nghwmni Caryl Parry Jones a’i thîm o actorion. Mae Caryl wedi llwyddo i greu cymeriadau fydd yn ein hatgoffa o rywun sy’n byw yn ein pentrefi, trefi….neu hyd yn oed yn ein cartrefi! Mae’r cymeriadau yn amrywio o’r annwyl, i’r gwirion, i’r...