Cyfres ddrama canol wythnos newydd lle cawn gyfle i ddod i adnabod casgliad o gymeriadau llawn cyfrinachau – rhai sy’n byw yn ardal Llanberis ag eraill sy’n byw ym mro Gŵyr, gydag un person yn eu clymu i gyd at ei gilydd – Delia Evans. Un o ffrindiau Delia...
Cyfres Hanes Byw lle mae 17 unigolyn dewr yn teithio yn ôl i’r flwyddyn 1525. Mae’r gyfres yn dilyn llwyddiant cyfres Y Plas, oedd yn canolbwyntio ar fywyd mewn plasty yn Llanerchaeron ym 1910. Y tro yma rydym yn teithio i Oes y Tuduriaid pan oedd...
Cyfres boblogaidd llawn comedi gwirion wedi ei leoli mewn ysbyty. Does byth eiliad dawel yn Ysbyty Hospital! Mae’r comedi yn y gyfres hon yn deillio o’r cymeriadau cryf fel y rheolwraig bwysig, y dirprwy uchelgeisiol, y nyrs niwrotig, y doctor anobeithiol, DJ...
Rhaglen gyfoes o garolau Nadolig traddodiadol Cymraeg i gyfeiliant offerynnau gwerin wedi ei lleoli yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Bryn Terfel sy’n canu repertoire o ganeuon gwerinol – newid i’w genre clasurol arferol – a hynny mewn adeiladau...
Dyma gyfle i fwynhau amrywiaeth eang o gerddoriaeth Only Men Aloud gyda Tim Rhys-Evans a’r bois. Rhaglen i ddiddanu’r gynulleidfa gyda’u perfformiadau a threfniannau unigryw o ganeuon Cymraeg poblogaidd a thraddodiadol, ynghyd â chlasuron gan gyfansoddwyr rhyngwladol...
Fel un o gorau mwyaf llwyddiannus y DU, mae Only Men Aloud wedi gwneud y cyfan. Ond ers blwyddyn bellach, maent wedi mynd trwy drawsnewidiad, o gôr meibion i wythawd lleisiol tyn a hoenus. Gyda’r sialens o ddarganfod eu sain ffres, newydd o’u blaen a thipyn o waith...
Cyfres hanes byw lle bydd pobl heddiw yn camu i fyd y plasty yn 1910. Yn Y Plas, mae teulu ynghyd â deuddeg o unigolion dewr eraill yn byw ym Mhlas Llanerchaeron – tŷ sydd wedi cael ei gadw yn union fel ag yr oedd – am dair wythnos a hynny dan amodau Cymru...
Yn 2014, daeth 8 o selebs dewr i leoliad newydd sbon yng Ngogledd Cymru, Nant Gwrtheyrn yn Llithfaen i ddysgu Cymraeg. Yn eu plith oedd Sam Evans o Lanelli, enillydd Big Brother 2013; Neville Southall o Landeilo, y gôl-geidwad chwedlonol; John Owen Jones a...
Cyfres uchelfan S4C yn ymwneud â chartrefi, pensaerniaeth a chynllunio mewnol. Ers troad y Mileniwm, bu’r cyflwynydd Aled Samuel yn ymweld â rhai o gartrefi mwyaf diddorol a chyffrous Cymru, yn ogystal â chartrefi Cymry sy’n byw dros y ffîn, yn Ewrop a thu hwnt. Yn...
Bydd y bedwaredd gyfres o Cegin Bryn yn seiliedig ar lyfr newydd y cogydd Bryn Williams ‘For the Love of Veg’ ac yn benodol ar y Clybiau Swper sydd yn defnyddio un llysieuyn mewn pedwar cwrs. Bydd y rhaglenni yn cyfuno coginio mewn cegin yng Nghaerdydd â choginio yn...
Dyma hanes Hannah Clark, merch gyffredin o Aberpennar, De Cymru â stori anghyffredin am oroesi. Yn dioddef o salwch calon ddifrifol yn ddwy oed, dim ond gwaith y llawfeddyg blaenllaw Syr Magdi Yacoub allai achub ei bywyd. Byddai ei lawdriniaeth arloesol yn creu hanes...
Mae Cymru wedi cynhyrchu rhai o awduron a beirdd mwyaf poblogaidd a nodedig y degawdau diwethaf; rhai sydd wedi cyrraedd brig y siartiau gwerthu ac sy’n llwyddo i blesio’r beirniaid. Er hynny, nid yw’r awduron na’r beirdd yma wedi derbyn y clod y maent yn...