Cyfres deithio newydd lle mae’r cerddor Gwilym Bowen Rhys yn ymweld â Phatagonia i ddarganfod mwy am hanes y Cymry ymfudodd yno yn 1865, ac yn cwrdd â phobl leol ar hyd a lled y Wladfa a dysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a‘r diwylliant.
Heledd Anna, Lloyd Lewis a Huw Owen sy’n herio timau o bêl-droedwyr ifanc i brofi eu sgiliau i geisio ennill Tlws Tekkers!
Cyfresi drama sci-fi wedi eu lleoli mewn byd lle mae’r cawr tech ITOPIA yn dylanwadu ar fywyd cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc, ond oes agenda fwy sinistr ar waith yma …? Enillydd Torc Rhagoriaeth Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd 2023.
Croeso cynnes i gymeriadau newydd sbon Cyw i’r babanod lleiaf, y Cywion Bach! Mae Bîp Bîp, Pi Po, Bop a Bw yn ffrindiau pennaf ac maen nhw wrth eu bodd yn dysgu geiriau newydd. Os ydych chi a’ch cywion bach yn dysgu Cymraeg hefyd, dewch i ddysgu gair ym mhob...
Criw Stwnsh yn cyflwyno chwedlau a hanesion Cymru mewn ffordd unigryw dwyt ti’n bendant ddim erioed ‘di weld o’r blaen!
Mae hoff fôr-leidr plant Cymru, Ben Dant, ar antur newydd i ailgylchu, a throi sbwriel yn sbeshal, a gwastraff yn gampwaith. Mae e’n teithio i ysgolion cynradd ar hyd y wlad i greu trysorau penigamp, cyfeillgar i’r amgylchedd.
Cyfres ddrama afaelgar, gyffrous i bobl ifanc, wedi ei lleoli mewn ysgol ac ar-lein, ac sy’n neidio’n ôl a mlaen mewn amser i ddatrys dirgelwch diflaniad un ferch, Willow, sy’n taflu pawb a phopeth oddi ar ei echel …
Cyfres sy’n annog gwylwyr ifanc i ymuno â Kim a Cêt ar antur hudolus yn llawn dawns a cherddoriaeth i ddod o hyd i’r twrch bach blin sy’n byw mewn twll!
Pwdryn a Melys sy’n helpu plant i ofalu am eu dannedd drwy chwarae llond trol o gemau lliwgar mewn timau! Pa dîm all gasglu y mwyaf o ddannedd glân ac ennill Tlws Dani Dant?
A sci-fi series for young people for S4C, and winner of awards from the Celtic Media Festival and RTS Cymru Wales in 2023..
Mae Emma Walford a Trystan Ellis-Morris yn helpu cyplau ledled Cymru drwy drefnu eu priodas am ddim ond pum mil o bunnau – a llwyth o help gan deulu a ffrindiau! – yn y cyfresi poblogaidd hyn.
Scott Quinnell sy’n teithio ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau newydd, amrywiol, gyda chanlyniadau difyr ac weithiau annisgwyl!