Rydym wedi gweld Emma Walford a Trystan Ellis-Morris yn trefnu priodasau … ond tro yma bydda’n nhw’n teithio hyd a lled Cymru yn ceisio creu Prosiectau cymunedol am bum mil o bunnoedd. Yn ystod y gyfres mae Emma a Trystan yn trawsnewid ystafelloedd newid clwb pêl droed, creu gardd synhwyrau, codi caban cwnsela ac agor siop! Ond fydd dim un o’r prosiectau yma yn llwyddo heb help pobl leol, felly mae angen digon o ddwylo medrus, bôn braich a mymryn o lwc. A fydda nhw’n llwyddo i greu’r prosiectau yma am bum mil?
Prosiect Pum Mil
Adloniant