Bethesda, Gogledd Cymru; pentref ôl-ddiwydiannol yr Howgets a lle sy’n fyd-enwog am ei lechi. Ar un adeg y chwarel oedd calon y cwm. Yn ei hanterth roedd dros dair mil o bobl yn gweithio yno. Os mai Rhondda roddodd lo yn y tân, Bethesda roddodd do ar y tŷ. Mae’n le sy’n llawn hanes a hanesion; lle sydd wedi’i drwytho i mewn hanes, gwaith caled a chreadigrwydd – crochan ddiwylliannol sydd wedi meithrin ambell i fand roc, bardd a rebel. Dan ni’n mynd i ddathlu’r llawenydd yn y lleol a chlustfeinio ar fywydau pobol y chwarel.
Pobol y Chwarel
Ffeithiol![Pobol y Chwarel](https://boomcymru.co.uk/wp-content/uploads/2020/11/Llun-1-Chwarel-1080x1080.jpg)