Dau Ffrind – Un Aren

Dau Ffrind – Un Aren

Mae’r actor a’r digrifwr Iwan John yn aros am aren newydd. Yn dilyn cyfnod hir ar ddialysis mae ei ffrind y cerddor Steffan Rhys Williams yn cynnig ei aren iddo.

Nid yw aren Steff mor addas a gallai fod i gorff Iwan ac mae’r ddau yn ymuno â system rhannu organau. Felly dieithryn fydd yn rhoi aren i Iwan, a Steff yn rhoi ei aren yntau i ddieithryn arall.

Ond siom enfawr sy’n wynebu’r ddau wrth i’r gadwyn rhannu organau dorri.
Nawr mae gan Iwan un opsiwn arall – derbyn aren Steff a gobeithio na fydd ei gorff yn ei gwrthod.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV