Boom Cymru – Darllediad Byw a Rhaglenni Uchafbwyntiau / S4C – Yn dod a holl gyffro’r Ffair i’ch cartrefi. Rydym yn dilyn y cystadlu a’r pencampwriaethau drwy gydol y Ffair Aeaf, gan weld y gorau o’r adrannau gwartheg, defaid, moch a cheffylau; yn ogystal byddwn yn dod...
Cyfresi sy’n dilyn hynt a helynt rhai o werthwyr tai mwyaf lliwgar Cymru wrth iddynt brofi uchafbwyntiau a sialensiau o roi tŷ … Ar Werth!
O’r cymeriadau lliwgar sy’n rhedeg Ffair eiconig Ynys y Barri, i berchennog a garddwr dawnus Castell Ffonmon sy’n gobeithio ennill Y Bwmpen Orau yn Sioe Flynyddol Bro Morgannwg … i Benarth a phâr o deithwyr flogio ddaeth yn enwog ar ôl slepjen...
Yn y gyfres hon mae’r cymeriad doniol Dona Direidi yn cael tro ar bob math o wahanol swyddi. Cyfres i blant meithrin.
Rhaglen arbennig lle mae Bryn Terfel yn dathlu Cymru, ei phobl a’i cherddoriaeth. Mae’r bas-bariton yn teithio i bedair ardal yng Nghymru – ambell un am y tro cyntaf – i ddarganfod ychydig o hanes a swyn y lleoliadau hyn. Ar hyd y ffordd, mae’n cyfarfod â...
Drwy gydol ein bywyd mae’r corff yn newid yn gyfan gwbl. Bydd cyfres Corff Cymru: Bywyd yn edrych ar y camau mawr sy’n digwydd wrth i ni dyfu; o fod yn faban bach newydd i’r newidiadau mawr sy’n dod law yn llaw â bywyd hwyrach. Bydd Dr Anwen Jones a Dr Katie Hemer yn...
Mae cyfryngau cymdeithasol, pwysau gan ffrindiau a’r diwylliant ‘selebs’ yn dod yn fwy pwysig ym mywydau pobl yn eu harddegau, ac yn sgil hyn nid yw’n syndod bod materion yn ymwneud â delwedd gorfforol yn cynyddu. Mae #welshteens My Perfect Body yn edrych ar y pwysau...
Cyfres gomedi i blant meithrin sy’n amrywiaeth o sgetsys, eitemau doniol, jôcs a chymeriadau dwl newydd sbon.
Pam ein bod ni’n cwympo mewn Cariad? Beth sy’n gwneud rhywun yn atyniadol? Sut mae Cariad yn effeithio ar yr ymennydd? Yn y rhaglen arbennig hon o Corff Cymru, bydd Dr Anwen Jones a Dr Katie Hemer yn bwrw llygaid gwyddonol ar y teimlad syfrdanol ac unigryw hwnnw:...
Dilynwn stori anhygoel Keith Williams (Keith y Glo) o Benygroes ger Rhydaman, wrth iddo deithio i Falaysia i geisio darganfod pwy oedd ei dad. Mabwysiadwyd Keith yn fabi, a phenderfynodd fynd ar drywydd ei rieni gwaed wedi i’w rieni mabwysiedig farw. Wedi cwrdd...
Mae Cegin Bryn yn dychwelyd i’r sgrin, gyda’r cogydd Bryn Williams yn cael ei ysbrydoli gan gyfoeth naturiol ein tir a môr. Gan ddefnyddio ryseitiau o’i lyfr Cymraeg ‘Tir a Môr’, gwelwn Bryn yn coginio sawl pryd blasus yn y gegin ac ar draws cefn gwlad ac arfordir...
Wedi’i leoli mewn swyddfa cwmni ymchwilio twyll yswiriant, mae’r gyfres yn ein tywys yn ôl 35 diwrnod cyn marwolaeth Simon Jones. Mae straeon y cymeriadau unigol yn clymu a’i gilydd, gan ddatgelu cyfrinachau tywyll …