Cyfresi sy’n dilyn bywyd bob dydd fets a chleifion Ystwyth Vets. Ry’n ni’n cwrdd ag amrywiaeth o anifeiliaid anwes traddodiadol ac anifeiliaid fferm yn ogystal ag ambell anifail ecsotig ac annisgwyl, gan ddod i adnabod y staff a’r cymeriadau sy’n gweithio ac yn...
Mae Sam Evans a Shauna Guinn wedi ysgubo byd coginio deheuol yr Unol Daleithiau. Nawr maen nhw’n cychwyn ar daith arbennig yn eu cyfres newydd. Eu nod… newid ein dull o goginio barbeciw a dathlu cymunedau gwych ar hyd a lled Cymru â’u coginio awyr agored...
Mae’r gantores a’r cyflwynydd Charlotte Church yn ein tywys ar daith bersonol iawn i fyd iechyd meddwl, gan gyfarfod gwyddonwyr a meddygon blaenllaw ym maes ymchwil . Gyda phrofiad ei mam ei hun o frwydr oes gydag anhwylder iechyd meddwl yn ei hysbrydoli, mae...
Rhaglen arbennig lle mae Bryn Terfel yn dathlu Cymru, ei phobl a’i cherddoriaeth. Mae’r bas-bariton yn teithio i bedair ardal yng Nghymru – ambell un am y tro cyntaf – i ddarganfod ychydig o hanes a swyn y lleoliadau hyn. I ddathlu ‘Gwlad y Gân’, mae Bryn yn...
Cymru, gwlad y chwedlau, golygfeydd a llysiau anferthol! Mae’r rhaglen ddogfen ysgafn hon yn mynd tu ôl i’r llenni ym myd lliwgar cystadlaethau tyfu llysiau Cymreig. Cewch ddilyn criw o gonsuriwyr tyfu llysiau sy’n creu hanes wrth herio natur a...
Trwy lygaid rhai o gymeriadau lliwgar Bae Caerdydd, bydd y gyfres newydd hon yn adrodd straeon y rhai sy’n byw, gweithio a chwarae yn un o ddatblygiadau glan-y-dŵr mwyaf Ewrop.
Croeso i’r byd o bawenbincio a chotiau ffwr amryliw – dyma ‘gifres’ heb ei hail! Mae’r rhaglen hon yn agor y drysau i fyd rhyfedd a chyfareddol pincio cŵn, lle mae perchnogion obsesiynol yn dod â’u babanod blewog am driniaeth bum seren, fel y Claudia Schniffer,...
Cyfres newydd sbon sy’n mynd a ni ar daith i lefydd gwahanol yng Nghymru yng nghwmni Geraint Hardy. Yn ystod y rhaglenni byddwn yn ymweld â Merthyr Tudful, Betws y Coed, Aberteifi, Wrecsam, Biwmares a Machynlleth. Byddwn yn edrych ar lefydd i aros a llefydd i fwyta,...
Yn y ddogfen “Gyrru Drwy Storom” rydym yn cwrdd â mam ifanc (Alaw Griffiths) sydd wedi dioddef iselder ar ôl geni ei 2 blentyn. Wedi brwydro, a dod dros y salwch, ar ôl genedigaeth ei merch Lleucu, doedd hi methu credu fod y salwch wedi mynd yn drech na hi...
Yn yr ail gyfres o Ceffylau Cymru, mae David Oliver yn cael cwmni cyflwynydd newydd – Nia Marshalsay-Thomas, wrth deithio i ymweld â cheffylau, y perchnogion, y stablau a’r iardiau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Mae’r ddau yn cymryd cipolwg ar bob math o gampau...
Dolwen. Hen dŷ mawreddog yng nghanol dyffryn cyfoethog, gwyrddlas. Ar ôl marwolaeth Mair mae ei phlant a’u teuluoedd yn dychwelyd yn ystod gwyliau’r haf i wasgaru llwch eu mam ac i drafod eu hetifeddiaeth a dyfodol Dolwen. Mae yma gyfrinachau teuluol. Hen hanes....
Dyma ffilm gerdd i’r teulu cyfan sy’n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o’r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw’n brysur tu hwnt. Mae Noa’n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus...