Mae’r gantores a’r gyflwynwraig Charlotte Church yn ein tywys ar daith bersonol iawn i fyd iechyd meddwl, gan gyfarfod gwyddonwyr a meddygon blaenllaw iawn ym maes ymchwil cyfredol. Gyda phrofiad ei mam ei hun o frwydr oes gydag anhwylder iechyd meddwl yn ei hysbrydoli, mae Charlotte yn dyrannu ymennydd dynol, yn astudio’r sgan ymennydd mwyaf manwl yn y byd ac yn dod wyneb yn wyneb a’i DNA ei hun mewn ymgais i ddarganfod atebion.
Charlotte Church: Inside my Brain
Ffeithiol