Rhaglen arbennig sy’n dathlu gyrfa ddisglair Bryn Terfel, y bas-bariton byd enwog, ar achlysur ei benblwydd yn 50 oed. Mewn sgwrs ag Emma Walford, mae Bryn yn mynd a ni ar daith gerddorol ac yn sôn am bwysigrwydd ei berfformiadau ar lwyfan yr Eisteddfod,...
Ers canrifoedd bellach mae Cymru’n cael ei adnabod fel gwlad y gân. Ond mae gan y genedl gariad mawr arall hefyd wrth gwrs – rygbi. Ym mlwyddyn Cwpan Rygbi’r Byd felly, pa well ffordd i gyfuno dau gariad y genedl na Codi Canu Cwpan Rygbi’r Byd 2015? Daw pum côr...
I gyd-fynd â dathliadau 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia, mae’r rhaglen hon yn dathlu perthynas dau ddyn, dwy wlad, un siwrnai, ac yn destament i fywyd anturus ac unigryw’r dringwr Eric Jones o Dremadog. Mae Eric yn datgelu atgofion a...
Rhaglen sy’n talu teyrnged i’r Groggs eiconig sy’n dathlu eu pen-blwydd yn 50 eleni. Cawn glywed yr hanes tu ôl i’r ffigyrau bach clai byd enwog a gynhyrchir gan gwmni ‘World of Groggs’ ger Pontypridd. Dros yr hanner canrif...
Mae llawer yn ystyried Alun Lewis fel prif awdur Prydeinig yr Ail Ryfel Byd. Fe’i ganed yng nghymoedd de Cymru a chafodd ei ladd dramor pan oedd ond yn wyth ar hugain oed. Ond mae’r cerddi, y llythyrau a’r storïau a adawodd ar ei ôl yn ei osod fel un o fawrion ein...
Mae Jess Davies o Aberystwyth yn un o brif fodelau ‘glamour’ Prydain. Mae’r rhaglen hon yn edrych ar ba mor berthnasol yw tudalen 3 bellach drwy lygaid Jess, yn ogystal ag academyddion blaenllaw, golygyddion cylchgronau a ffotograffwyr sydd ynghlwm a’r diwydiant....
Fe agorodd drysau dosbarth Cariad @ Iaith unwaith eto fis Mehefin 2015 gyda Nia Parry ac Wynne Evans yn cyflwyno, ac Ioan Talfryn yn tiwtora. Yr wyth seleb dewr a wnaeth fentro dysgu Cymraeg eleni yw seren y West End Caroline Sheen, yr actor amryddawn Steve Speirs,...
Drama gyfoes gan Fflur Dafydd yn dilyn hynt a helynt ficer ifanc o’r enw Myfanwy Elfed, sy’n darganfod fod angen llawdriniaeth ar ei hymennydd, ac o ganlyniad, mae’n dechrau cwestiynu ei ffydd, ei phriodas – a’i pherthynas gyda’r ymgymerwr lleol. Wrth iddi ddod i...
Mae Sbarc yn gyfres wyddonol sy’n ateb pob math o gwestiynau mae rhai plant ifanc yn eu holi. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar un thema. Sbarc, y gwyddonydd, (Tudur Phillips) sy’n gosod y thema ac yn ymdrechu i ddod o hyd i’r atebion am y byd o’n cwmpas,...
Mewn cyfres o ddramâu ysgafn ar gyfer S4C, mae rhai o actorion amlycaf Cymru yn dangos eu doniau ac yn arwain cast ifanc talentog newydd. Mae Ysbrydion cecrus, rhieni sy’n creu embaras, problemau caru canol oed, gwleidyddiaeth mewn canolfan alwadau a chanolfan hamdden...
Dathliad o’r Gân Gymreig ar Ddydd Gŵyl Ddewi yw thema’r gyngerdd hon o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dan arweiniad Gareth Jones a’r artisitiaid Bryn Terfel, y soprano Menna Cazel a’r...
Yn yr ail gyfres o Caeau Cymru, mae Brychan Llŷr yn datgloi hanes a chyfrinachau ein cymunedau gwledig, trwy ddadansoddi ac ymchwilio i’r enwau a ddefnyddir ar ein tiroedd. Yn gwmni i Brychan mae’r hanesydd Dr Rhian Parry, ac mae’r ddau yn trafod caeau a thiroedd...