Cyfres yn llawn canu a dawnsio gyda’r rapwraig o fri, Dona Direidi; wrth iddi hi a’i ffrind Ned Nodyn osod sialens i griw o ddisgyblion. Yr her ydy dysgu cân newydd a’i pherfformio o flaen neuadd lawn. Mae Dona’n eu helpu gyda’r paratoadau, ac yn annog y plant i ddefnyddio eu dychymyg wrth baratoi’r perfformiad – o’r set i’r dillad i’r dawnsio – ac yn rhoi ambell syrpreis i’r criw ar hyd y ffordd. Cyfres sy’n dod â chymuned yr ysgol at ei gilydd i ddathlu doniau’r disgyblion.
Do Re Mi Dona
Plant