CYFLOG: yn dibynnu ar brofiad.
CYTUNDEB: Penodol (12 mis)
LLEOLIAD: Wedi’i leoli yng Nghaerdydd gyda’r gallu i weithio’n hyblyg.
DYDDIAD CAU: 19/01/2024
Dyma gyfle gwych i Gynorthwyydd Cyfrifon ymuno â thîm cwmni cynhyrchu teledu llwyddiannus. Mae’r swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n chwilio am yrfa ym maes Cyllid.
Bydd y cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifeg berthnasol ar gael i’r ymgeisydd.
Yn ddelfrydol, byddai gennych gefndir mewn gweinyddu cyfrifon. Mae’r cwmni’n defnyddio pecyn meddalwedd cyfrifon Microsoft Navision ar hyn o bryd. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Boom yn rhan o ITV Studios ac yn un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru. Gyda’n pencadlys ym Mae Caerdydd, mae ein busnesau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, effeithiau gweledol a graffeg symudol yn darparu cynnwys i S4C, BBC, C4, ITV, C5, UKTV, Netflix a HBO.
Rhaid i’r ymgeisydd delfrydol fod yn:
- Drylwyr ac yn drefnus
- Gallu gwneud gwaith cywir gyda llygad am fanylion
- Gallu cymryd cyfrifoldeb am dasgau a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser
- Meddu ar allu cyfrifiadurol gyda sgiliau rhifedd rhagorol (rhaid meddu ar ddealltwriaeth dda o Excel)
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
- Gallu cyfathrebu’n effeithlon gan ddefnyddio ystod o sgiliau i gefnogi staff o fewn y cwmni
Bydd dyletswyddau’r rôl yn cynnwys:
- Cynnal rhediad dydd i ddydd y cyfrifon cyfriflyfr pryniant
- Prosesu anfonebau
- Monitro a datrys anfonebau sy’n destun dadl
- Delio â’r holl alwadau ffôn, e-byst ac ymholiadau ynglŷn â thaliadau
- Gweinyddu bancio a chysoniadau yn ôl yr angen
- Cymorth gyda chyfriflyfr gwerthu, hawliadau treuliau a derbynebau cardiau credyd yn ôl yr angen
- Bydd unrhyw ddyletswyddau eraill sydd eu hangen yn cael eu pennu gan y Rheolydd Cyllid
Gwnewch gais trwy anfon eich CV, llythyr i gyflwyno’ch hunan a disgwyliadau cyflog at hr@boomcymru.co.uk erbyn 19 Ionawr 2024
Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom (https://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).