Cyfres lle mae Aled Samuel a’r hanesydd adeiladau Bethan Scorey yn edrych ar gartrefi Cymru o oes y Tuduriaid hyd heddiw, gan agor y drws ar hanes ein cenedl drwy bensaernïaeth.
Cyfres deithio newydd lle mae’r cerddor Gwilym Bowen Rhys yn ymweld â Phatagonia i ddarganfod mwy am hanes y Cymry ymfudodd yno yn 1865, ac yn cwrdd â phobl leol ar hyd a lled y Wladfa a dysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a‘r diwylliant.
Scott Quinnell sy’n teithio ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau newydd, amrywiol, gyda chanlyniadau difyr ac weithiau annisgwyl!
Golwg ar amrywiaeth eang o dalent gorau byd y celfyddydau cyfoes yng Nghymru gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy.
Pwy sydd angen mynd dramor i fwynhau gwyliau gwych? Tra bod arian yn brin i lawer ohonon ni, dyma gyfres sy’n dangos amrywiaeth o wyliau yma yng Nghymru, ac yn profi nad oes angen pocedi dwfn i fwynhau‘r holl weithgareddau a phrofiadau sydd ar gael –...
Ymunwn â thri pherson adnabyddus wrth iddynt baratoi pryd o fwyd tri-chwrs yn eu cegin gartref. Fe fydd pob seleb yn gyfrifol am ddewis un cwrs ond yn gorfod taclo’r ddau gwrs arall yn ogystal. Ni fydd y tri yn gwybod pwy fydd yn rhannu eu “bwrdd i dri” nes...
Nia Parry sy’n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o bobl adnabyddus Cymru yn y gyfres ‘Adre’. Mae pob ‘Adre’ yn wahanol a’r cartref yn aml iawn yn adlewyrchu’r cymeriad sy’n byw yno. Cawn gyfle i gael cipolwg ar y tŷ wrth sgwrsio am fywyd a phopeth dan haul a bydd...
Tri seleb, tri chwrs, un bwrdd i dri. Yn y gyfres hon, mi fydd tri wyneb adnabyddus yn paratoi un cwrs o bryd bwyd yr un, yn gwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin. Fe fydd y tri yn coginio’r cwrs o’u dewis nhw ond hefyd yn gorfod paratoi a choginio cyrsiau’r...
Aled Samuel a’r cynllunydd mewnol Mandy Watkins sy’n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i fusnesu mewn gwahanol fathau o gartrefi hyfryd, chwaethus a diddorol. O fythynnod i dai newydd, o dai teras i Ffermdai, mae nhw i gyd yn cynig syniadau gwahanol ac yn wledd i’r...
Ifan Jones Evans sy’n cyflwyno cyfres ‘Caru Casglu’ lle bydd yn cwrdd â nifer o bobl ar hyd a lled Cymru sy’n mwynhau casglu amrywiaeth o bethau. O dractorau i blatiau, o gathod i grysau. Mae na bethau rhyfeddol ymhob cornel o Gymru a cewch gyfle i’w gweld nhw i...
Nia Parry fydd yn edrych ar gystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn dwy raglen arbennig. Byddwn yn cyfarfod y cystadleuwyr ac yn dangos detholiad o gyfweliadau’r rownd gyn derfynol yn y rhaglen gyntaf. Yn yr ail raglen bydd cyfle i ddod i...
Nia Parry sy’n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o enwogion Cymru yn y gyfres ‘Adre’. Byddwn yn ymweld â chartrefi amrywiol ar hyd a lled Cymru gan ddod i adnabod y cymeriadau difyr sy’n byw ynddyn nhw.