Y Siambr

Y Siambr

Cyflwynir Y Siambr gan Aeron Pughe ac fe’i lleolir yng nghrombil mynydd yn Eryri. Yn y sioe gêm gyffrous ac unigryw hon, fe welwn y timau o dri pherson anturus yn cystadlu mewn cyfres o gemau o fewn rig trampolîn tanddaearol enfawr ac ar rwydwaith gwifren gwibio. Bydd y cystadleuwyr yn hedfan, dringo a thrawsdeithio’u ffordd trwy gyfres o gemau dros bedair lefel. Ar ddiwedd lefel pedwar, bydd y tîm â’r sgôr isaf allan o’r gêm. Dim ond y tîm sy’n ennill rownd 4 sy’n symud ymlaen i’r rownd derfynol, ‘Dianc Y Siambr’. Yn y rownd hon mae’n rhaid iddynt gwblhau pedair gêm er mwyn datgelu côd pedwar digid cyn rhedeg allan o’r gloddfa. A allant lwyddo yn y dasg derfynol, a dianc cyn i’r pŵer redeg allan, gan adael y gloddfa mewn tywyllwch dudew?

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV