Cyfres fisol ar-lein yw Pump. Bob mis bydd casgliad o eitemau byr yn y Gymraeg yn cael eu rhyddhau ar sianel YouTube ‘Pump’ ac yn cael eu rhannu ar draws gwefannau rhwydweithio cymdeithasol. O eitemau comedi i gyfresi teithio, adolygiadau teledu a ffilm, bydd rhywbeth i bawb ar sianel Pump!