Yn y ddogfen “Gyrru Drwy Storom” rydym yn cwrdd â mam ifanc (Alaw Griffiths) sydd wedi dioddef iselder ar ôl geni ei 2 blentyn. Wedi brwydro, a dod dros y salwch, ar ôl genedigaeth ei merch Lleucu, doedd hi methu credu fod y salwch wedi mynd yn drech na hi unwaith eto wedi geni Morgan. Mae’r ddogfen yn bortread dewr ac onest, ac mae Alaw yn credu yn gryf fod angen siarad am y cyflwr er mwyn cael gwared â’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Gyrru Trwy Storom
Ffeithiol