I gyd-fynd â dathliadau 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia, mae’r rhaglen hon yn dathlu perthynas dau ddyn, dwy wlad, un siwrnai, ac yn destament i fywyd anturus ac unigryw’r dringwr Eric Jones o Dremadog. Mae Eric yn datgelu atgofion a hanesion ei fywyd, ar daith gyda’r dringwr ifanc o Fethesda, Ioan Doyle, wrth iddynt fynd ar siwrnai fythgofiadwy ar hyd asgwrn cefn yr Andes ym Mhatagonia. Gwelwn Eric ac Ioan yn treulio amser gyda chymuned leol ardal Esquel cyn mentro i anialwch ‘Piedra Parada’ i wynebu her fwya’r daith, sef dringo tŵr enfawr a elwir ‘Y Llaw’.
Copa — Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle
Ffeithiol![Copa — Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle](https://boomcymru.co.uk/wp-content/uploads/2015/10/Patagonia-Eric-Jones-ac-Ioan-Doyle-S4C.jpg)