Barking Mad: The Welsh Dog Spa

Barking Mad: The Welsh Dog Spa

Mewn cyfres o dair rhaglen ar gyfer BBC Cymru Wales, mae Barking Mad: The Welsh Dog Spa yn dilyn hanes Mucky Pups, Spa a ‘boutique’ cŵn cyntaf a mwyaf Cymru. Leanne Couch, gwraig fusnes a’r perchennog sy’n gwireddu breuddwydion perchnogion y cŵn. Gydag ymherodraeth fusnes i’w rhedeg a phump o blant dan ddeg oed, mae bywyd fel ffair iddi a’i gŵr Lee. Wedyn mae’r ‘mamau’ a’r ‘tadau’ sydd wedi dotio ar eu babis bach blewog gyda llawer yn gwario miloedd o bunnau yn prynu dillad, teganau a thriniaethau yn y spa iddyn nhw. Wrth i Mucky Pups gychwyn ail flwyddyn y busnes mae gan Leanne gynlluniau mawr. A fydd hi’n llwyddo gyda’r noson gyntaf ‘speed-dating’ yng Nghymru a noson ‘Woof Factor’ i ganfod y model cŵn gorau yng Nghymru? Y cyfan wrth roi genedigaeth i’w phumed plentyn!

Boom Cymru
Boom Cymru Working with BBC One Wales

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV