Anita

Anita

Yn y gyfres newydd hon, mae’r ddysgwraig Anita, mewn penbleth. Mae ei charwriaeth gyda Bedwyr yn mynd yn dda, tan i’w fam gael trawiad ar y galon ac yn gorfod rhuthro yn ôl adref i Foelfre i edrych ar ei hôl. Be neith Anita, y fam sengl o Gaerdydd? Ydi hi am adael ei merch Jools, ei chartref, a’i gwaith yn y cartref henoed, i ddilyn ei chalon – a Bedwyr – i Ynys Môn? Mae hi’n benderfyniad enfawr. Beth fydd ymateb Dylan, mab Bedwyr, i’r newyddion na fydd yn symud i Gaerdydd o ganlyniad i drawiad ei Nain? A beth fydd ymateb Dei Dymp fod Bedwyr, ei arwr a’i ffrind gorau, yn ôl ym Moelfre, ei filltir sgwâr?

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c