Noson gyda Sian Phillips

Noson gyda Sian Phillips

Sian Phillips, seren llwyfan a sgrin, mewn noson gabaret gyda chynulleidfa o wahoddedigion. Mae chwedl y West End, Sian Phillips, yn dychwelyd i Gymru i berfformio’i sioe ei hun o flaen cynulleidfa stiwdio. Mae Sian yn enwog am ystod eang ei chymeriadau a sgiliau perfformio. Efallai mai’r rhan y mae llawer yn ei gofio ydyw Livia yng nghynhyrchiad y BBC o I Claudius. Ond yn y cyfnod hwn yn ei gyrfa, defnyddiodd ei thalent am theatr gerdd mewn cynhyrchiad o Pal Joey. Arweiniodd hyn at ei sioe unigol – Marlene – a dderbyniodd ganmoliaeth uchel. Yn y rhaglen hon mae’n ein tywys drwy ei gyrfa ddisglair mewn stori a chân.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV