Dyma ffilm gerdd i’r teulu cyfan sy’n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o’r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw’n brysur tu hwnt. Mae Noa’n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o’r enw Albi, sy’n un o nifer o ‘ffrindiau dychmygol’ sy’n byw mewn byd arbennig iawn. Mae’r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae’r ffilm wedi’i hysgrifennu a’i chreu gan Caryl Parry Jones a Non Parry. Mae pwysigrwydd cyfeillgarwch a theulu a phwer oesol y dychymyg wrth galon y ffilm.
Albi a Noa yn achub yr Iwnifyrs
Drama