Martha Jac a Sianco

Martha Jac a Sianco

Ffilm bwerus, ddramatig sydd yn olrhain blwyddyn gythryblus ym mywyd dau frawd a chwaer yng Nghefn Gwlad Cymru. Mae Martha Jac a Sianco yn byw ar y fferm deuluol, Graig Ddu. Nid oes dim wedi newid ar y fferm ers cenedlaethau, ond mae marwolaeth Mami a’r sylweddoliad ei bod wedi gadael y ffarm yn ei hewyllys yn gyfartal rhwng y tri ohonynt yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau sydd yn arwain at drasiedi. Mae yna elfen gre’ o arswyd yn perthyn i’r ffilm wrth i’r brain bigo yn ddidrugaredd ar ffenestri’r ffarm berfedd nos, buwch yn cnoi ei thethi ei hun ac effaith y gwenwyn sydd yn cael ei osod i ladd y brain. Yn ôl yr hen goel fe fydd y gwenwyn yn lladd saith gwaith a daw hynny yn wir erbyn diwedd y ffilm. Mae’r ffilm yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Caryl Lewis.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV