Dylan Thomas: A Poet’s Guide

Dylan Thomas: A Poet’s Guide

Mae’r bardd Dylan Thomas yn enwog led-led y byd.  Ond yn amlach na pheidio canolbwyntir ar hanes tymhestlog ei fywyd yn hytrach nag ar ei weithiau.  Mae’r bardd Cymreig Owen Sheers am fynd nol at yr hyn wnaeth greu’r cyffro yn y lle cyntaf:  y geiriau ar y dudalen.   Gan gymryd golwg agosach ar gerddi pennaf Thomas, mae Sheers yn arwain y gwylwyr drwy’r hanes o sut y cawson nhw eu hysbrydoli a’u hysgrifennu, a beth yn union yw eu hystyr.  Mae’n ymweld â’r llefydd lle eu crewyd: o swbwrbia Abertawe i Lundain rwygedig ar ôl y rhyfel, o gefn gwlad odidog gorllewin Cymru i brysurdeb gwallgo dinas Efrog Newydd.  Gyda chlust bardd am iaith, mae Sheers yn dadansoddi taflenni gwaith, datgymalu llinellau ac yn gofyn pa mor dda yw’r cerddi yma mewn gwirionedd. Yn rhannu eu gweledigaeth a’u brwdfrydedd mae cyd-feirdd Paul Muldoon, Andrew Motion, Simon Armitage a Clare Pollard.

Boom
Boom Cymru Working with BBC Four and BBC Wales

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV