Caroline Sheen yn siarad am hynt a helynt dysgu Cymraeg wedi iddi ennill Cariad @ Iaith eleni.
Soniwch am eich uchafbwynt o’r gyfres.
Roedd hi’n wythnos wych, gyda chwmni’r bobl orau a chymaint o hwyl, mae’n anodd dewis uchafbwynt. Ond o edrych yn ôl – y ffaith i fy ffrindiau ddewis fi fel yr enillydd. Roedd hynny’n golygu gymaint i mi.
Beth oedd y peth mwyaf anodd am ddysgu Cymraeg?
Siarad yr iaith a dweud y gwir. Roedd y gwersi yn fy helpu gymaint i ddarllen, deall ac ynganu, ond defnyddio’r cyfan mewn sgwrs oedd y peth mwyaf anodd a brawychus.
Beth yw’r top tips am fynd i’r afael â’r iaith i ddysgwyr newydd?
Dwi’n credu mai’r hyn oedd yn fuddiol i mi oedd cael yr amser i ymrwymo wythnos gyfan i drochi yn yr iaith. Nawr mod i nôl gartref rydw’n ceisio cadw cyswllt trwy wylio S4C a gwrando ar y radio.
Pa mor bwysig yw rhoi cefnogaeth i ddysgu’r iaith?
Mae mor gyffrous i’w dysgu ac rwyf wedi bod eisiau gwneud hynny erioed. Mae’n bwysig i’r genedl ac yn rhoi hunaniaeth ac yn ein huno fel Cymry – a dyw hynny ddim yn beth drwg.