Rhaglen arbennig lle mae Bryn Terfel yn dathlu Cymru, ei phobl a’i cherddoriaeth. Mae’r bas-bariton yn teithio i bedair ardal yng Nghymru – ambell un am y tro cyntaf – i ddarganfod ychydig o hanes a swyn y lleoliadau hyn. I ddathlu ‘Gwlad y Gân’, mae Bryn yn...
Rhaglen arbennig sy’n dathlu gyrfa ddisglair Bryn Terfel, y bas-bariton byd enwog, ar achlysur ei benblwydd yn 50 oed. Mewn sgwrs ag Emma Walford, mae Bryn yn mynd a ni ar daith gerddorol ac yn sôn am bwysigrwydd ei berfformiadau ar lwyfan yr Eisteddfod,...
Cerys Matthews sy’n rhoi cefndir i rai o’n caneuon Cymreig mwyaf eiconig. Tu ôl i’r geiriau a’r melodïau mae straeon hudol sydd yn ein tywys i leoliadau annisgwyl ar draws y byd. Cyfres o raglenni sy’n ‘hel achau’ cerddorol gyda pherfformiad byw o bob cân...
Mae’r rhaglen ddogfen yma yn dilyn un o enwogion mwyaf Cymru, Charlotte Church. Mae hi’n siarad yn agored am ei bywyd, ei gyrfa a’i dyfodol wrth iddi ddechrau ar bennod newydd yn ei gyrfa. Mae Charlotte wedi bod yn byw bywyd cyhoeddus ers i’r “Voice of an Angel” cael...
Rhaglen arbennig lle mae Bryn Terfel yn dathlu Cymru, ei phobl a’i cherddoriaeth. Mae’r bas-bariton yn teithio i bedair ardal yng Nghymru – ambell un am y tro cyntaf – i ddarganfod ychydig o hanes a swyn y lleoliadau hyn. Ar hyd y ffordd, mae’n cyfarfod â...
Cyfres gerddorol a saethwyd yn gyfan gwbl o wahanol leoliadau sy’n arddangos perfformiadau gan rai o brif ddoniau cerddorol Cymru. Cafwyd 4 cyfres gymeradwy o Nodyn a bu’n elfen allweddol yn arlwy gerddorol S4C. Elin Fflur oedd yn cyflwyno’r gyfres lle gwahoddwyd...
Dan arweiniad Huw Stephens a Huw Evans, roedd Bandit yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf a pherfformiadau a digwyddiadau o’r sîn gerddorol Cymreig. Cafwyd 8 cyfres o Bandit rhwng 2004 a 2011 a roddodd lwyfan gwerthfawr i fandiau Cymraeg sefydledig a newydd. Nodweddwyd...
Ym mis Ionawr 2017, fe aeth Only Men Aloud a’i steil unigryw o gerddoriaeth i India. Tra ym Mumbai, fe’i heriwyd i ddysgu cân newydd sbon mewn Hindi a gyfansoddwyd gan Rahul Pandey, sydd yn ysgrifennu ac yn perfformio i’r diwydiant ffilm Bollywood. Treuliodd OMA...
Dathliad o’r Gân Gymreig ar Ddydd Gŵyl Ddewi yw thema’r gyngerdd hon o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dan arweiniad Gareth Jones a’r artisitiaid Bryn Terfel, y soprano Menna Cazel a’r...
Perfformiad gan Charlotte Church o’i cherddoriaeth ddiweddara mewn cyngerdd yn ei dinas enedigol, Caerdydd. Yn dilyn misoedd o gynllunio, mae Charlotte yn cyflwyno ei sioe lwyfan newydd “Entanglement” sydd wedi ei ysbrydoli gan wyddoniaeth, ac yn cynnwys nifer o...
Rhaglen gyfoes o garolau Nadolig traddodiadol Cymraeg i gyfeiliant offerynnau gwerin wedi ei lleoli yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Bryn Terfel sy’n canu repertoire o ganeuon gwerinol – newid i’w genre clasurol arferol – a hynny mewn adeiladau...
Yn dilyn llwyddiant ysgubol prosiect Only Boys Aloud! Lle cafodd 10 o gorau bechgyn eu sefydlu ar draws Cymoedd De Cymru, mae’r gyfres hon yn dilyn yr her fawr nesaf i Tim Rhys-Evans. Heb fodloni ar greu côr o 200 o fechgyn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng...