Canllaw Preifatrwydd i Berson Ifanc

Yn Boom Cymru, r’yn ni’n cymryd ein dyletswydd i ddiogelu a pharchu preifatrwydd pawb, gan gynnwys pobl ifanc dan 18 oed, o ddifrif.

Pa wybodaeth allwn ni ei gasglu a pham?
D’yn ni’n gofyn am dy wybodaeth bersonol, fel dy enw, dy oed a dy fanylion cyswllt, ac weithiau d’yn ni’n gofyn am fanylion am dy fywyd hefyd. Mae hynny am lwythi o resymau. Weithiau, d’yn ni’n ei defnyddio i wneud yn siŵr mai ti yw’r person rwyt ti’n dweud wyt ti. Neu efallai fod dy stori bersonol di mor anhygoel, fe fydden ni’n hoffi i ti ei rhannu gyda’r bobl sy’n gwneud ein rhaglenni ni. Efallai weithiau, bydden yn edrych ar dy dudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Sut ydyn ni’n ei ddefnyddio?
Weithiau, byddwn yn gwneud gwiriad lles trwy siarad gyda dy ysgol neu trwy ofyn pethau ychwanegol i ti am beth rwyt ti wedi ei ddweud wrthon ni.

Y rheswm am hynny yw ein bod ni am wneud yn siwr fod ein rhaglenni’n wych, tra’n gofalu nad ydy ymddangos ar un o’r rhaglenni hynny’n brofiad gwael i ti. Nid busnesa rydyn ni!

Pethau i ti eu cadw mewn cof
Cyn i ti rannu dy stwff personol gyda ni, dyma enghreifftiau o rai o’r pethau y dylet ti feddwl amdanynt.

  • Mae llawer o’n rhaglenni’n cael eu hailddarlledu, felly mae’n debyg y byddwn ni’n dal gafael ar y pethau rwyt ti’n eu rhannu gyda ni am nifer o flynyddoedd. Efallai y byddi di’n teimlo’n wahanol am yr wybodaeth rwyt ti’n ei rannu’n gyhoeddus pan fyddi di’n hŷn.
  • Efallai y byddwn hefyd yn gwerthu rhaglen rwyt ti ynddi, fel bod modd i’r rhaglen gael ei ddangos yn unrhyw le yn y byd.

Beth ddylet ti ei wneud os wyt ti’n anhapus
Os nad wyt ti’n hapus gyda’r ffordd y cafodd dy wybodaeth bersonol di ei defnyddio, mae yna sawl peth y galli di ei wneud, fel:

  • gofyn i ni pa wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanat ti
  • gofyn i ni gywiro camgymeriadau
  • gofyn i ni gael gwared â dy wybodaeth bersonol

Fe fyddwn yn gwneud pethau’n iawn, ble bynnag y bydd hynny’n bosib.

Galli gysylltu â ni am dy hawliau personol gan ddefnyddio’r manylion isod.

Cysylltu â ni
Mae’n manylion cyswllt isod, os wyt ti am siarad â ni.

Ry’n ni wedi rhoi hysbysiad i dy riant neu warchedwr sy’n cynnwys yr holl fanylion ar pryd a pham ry’n ni’n casglu dy wybodaeth bersonol, sut yr ydym yn ei ddefnyddio ac yn y blaen.

Byddwn yn cymryd felly y bydd dy riant neu warchedwr yn esbonio ymhellach. Felly gwna’n yn siŵr eu bod yn darllen yr holl fanylion ar dy ran. Ond mae croeso i ti eu darllen dy hun neu siarad gyda ni hefyd!

Mae croeso i ti gysylltu gyda ni neu ofyn cwestiynau unrhyw amser trwy e-bostio gdpr@boomcymru.co.uk, trwy ffonio 029 22 450 000 neu trwy ysgrifennu atom yn GDPR, GloWorks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd.  CF10 4GA