Ers y darllediad cyntaf yn Haf 2008, mae’r brand wedi diddanu miloedd ar filoedd o blant bach a chynnig hafan ddiogel i rieni diolchgar. Dros gyfnod o 10 mlynedd, mae criw Boom Plant, â chynllunio dyfeisgar Bait, wedi llwyddo i greu gwasanaeth cynhwysfawr llawn hwyl a sbri o ddolenni a rhaglenni gyda chyflwynwyr a chymeriadau sy’n agos at galon plant meithrin Cymru. Mewn amser byr iawn, mae Cyw wedi sefydlu ei hun yn un o frandiau mwyaf llwyddiannus S4C a Chymru, ac i’w gweld yn amlwg ar aml-gyfrwng a phlatfform – teledu, y we, radio, CDs a DVDs, llyfrau, gemau cyfrifiadurol, apiau, mewn deunydd addysgiadol, ar ddillad ac ar nwyddau amrywiol, heb son am mewn sioeau byw, cylchoedd meithrin, ysgolion a wardiau plant ysbytai Cymru. Mae pawb yn caru Cyw!

Mae Boom Cymru yn falch iawn o gymeriad a gwasanaeth sydd yn rhan annatod o fywyd plant Cymru ac edrychwn ymlaen at y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt! Penblwydd Hapus Cyw!