Ffilm gan Gwyneth Lewis sydd yn portreadu cyfnod cythryblus yn ein hanes – streic y glowyr 1984/1985. Merch ifanc o’r enw Carys yw’r prif gymeriad a chawn ddilyn y streic trwy ei phrofiadau a’i bywyd teuluol hi. Mae Carys yn 17 oed, ac yn torri ei bol eisiau gadael a chofleidio’r byd mawr tu allan i’r cwm. Mae ei thad Dai yn löwr, yn undebwr i’r carn ac yn credu y bydd y glowyr yn ennill y streic. Ond mae ei frawd Deiniol yn synhwyro bod y streic yma yn mynd i newid y diwydiant a bywyd y glowyr a’u teuluoedd am byth.
Y Streic a Fi
Drama