Rhaglen arbennig lle mae Bryn Terfel yn dathlu Cymru, ei phobl a’i cherddoriaeth. Mae’r bas-bariton yn teithio i bedair ardal yng Nghymru – ambell un am y tro cyntaf – i ddarganfod ychydig o hanes a swyn y lleoliadau hyn. I ddathlu ‘Gwlad y Gân’, mae Bryn yn perfformio nifer o ganeuon mewn lleoliadau sy’n anghyfarwydd iddo, megis ar y traeth ym Mhorthdinllaen, mewn cwch ar Lyn Tegid ac yn Eglwys Sant Ina ger Cei Newydd.