Rhaglen arbennig lle mae Bryn Terfel yn dathlu Cymru, ei phobl a’i cherddoriaeth. Mae’r bas-bariton yn teithio i bedair ardal yng Nghymru – ambell un am y tro cyntaf – i ddarganfod ychydig o hanes a swyn y lleoliadau hyn. Ar hyd y ffordd, mae’n cyfarfod â phobl amrywiol i sgwrsio a hel atgofion, yn ogystal a chael gêm o golff a gwers bysgota. I ddathlu ‘Gwlad y Gân’, mae Bryn yn perfformio nifer o ganeuon mewn lleoliadau sy’n anghyfarwydd iddo, megis Castell Criccieth, Camlas Llangollen a’r Hen Gwt Bad Achub yn Nhrefdraeth.